Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 13/06/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 13)

13 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried. Yn sgil cael ei friffio ar Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, byddai’r Pwyllgor yn cael diweddariad ar yr Adolygiad Actiwaraidd yng Ngorffennaf neu Fedi.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Johnson ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.