Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 18/10/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 48)
48 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Wrth gyflwyno'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol i gael ei hystyried, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wybod bod rhai eitemau wedi’u gohirio o’r cyfarfod hwn o ganlyniad i gyfranogiad swyddogion yng ngwaith paratoi deunyddiau a gafodd eu defnyddio yn y gweithdai cyllideb.
Byddai’r ddau gam gweithredu o gyfarfod y Pwyllgor mis Medi yn ymwneud â pherfformiad data a mapio taenlenni yn cael eu cynnwys yn agenda'r cyfarfod nesaf.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd McGuill, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i ddarparu manylion cyswllt y tîm TG i'r Aelodau i'w helpu â materion iPad. Atgoffodd y Cynghorydd Mulin bod cymorth TG ar gael ar gais.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.