Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 07/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 39)

39 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth ystyried y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol, cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r diweddariad ar Fwrdd NEW Homes tan fis Mawrth 2019 a gohirio’r diweddariad ar y Diwygiad Lles o fis Mawrth.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Dolphin y dylid cynnal gweithdy yn syth cyn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn helpu Aelodau i ddeall agweddau o’r Pwyllgor.  Cytunodd y Cynghorydd Attridge y byddai hyn yn cael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.