Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme (Community & Enterprise)

Cyfarfod: 26/09/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 25)

25 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried, cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor 7 Tachwedd, a dywedodd y cytunwyd i ohirio Adroddiad Monitro Cynllun Cyngor 2018/19 Chwarter 1 a 2 ar gyfer cyfarfod 19 Rhagfyr 2018. Cytunwyd hefyd y byddai adroddiad Ôl-ddyledion Rhent yn cael ei gyflwyno gerbron cyfarfod 7 Tachwedd.  

 

            Rhoddodd yr Hwylusydd wybod y byddai gweithdy’n cael ei drefnu yn ystod Hydref i aelodau o’r Pwyllgor ystyried cynigion y gyllideb, a dywedodd y byddai manylion yn cael eu cadarnhau i Aelodau dros e-bost.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei         awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr    angen.