Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Annual Report 2017/18 and Treasury Management Quarter 1 Update 2018/19

Cyfarfod: 11/07/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 18)

18 Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2017/18 a Diweddariad ar Reoli’r Trysorlys yn chwarter 1 2018/19 pdf icon PDF 107 KB

Darparu adroddiad blynyddol Rheoli Trysorlys 2017/18 a'r diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2018/19 i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro - Cyfrifeg Dechnegol yr Adroddiad Blynyddol ar Bolisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor 2017/18 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet.

 

Wrth grynhoi’r pwyntiau allweddol yn yr Adroddiad Blynyddol, y mater o bwys mwyaf oedd cynnydd Cyfradd y Banc fis Tachwedd 2017. Derbyniodd yr Aelodau daflen ddiwygiedig ar gyfer adran 3, a oedd yn dangos y sefyllfa ddiweddaraf o ran benthyca yn 2017, gan adlewyrchu’r dull o ddal i ddefnyddio benthyciadau tymor byr.  Byddai'r swyddogion yn gweithio â’r ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys dros yr haf wrth bwyso a mesur y dewisiadau posib ar gyfer benthyciadau hirdymor.  Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at un achos o fynd yn groes i bolisi'r Cyngor, lle buddsoddwyd arian uwchben y terfyn a bennwyd, a hynny drwy gamgymeriad rhywun.  Wedi ystyried lefel y risg, y tâl adbrynu cynnar a'r perygl i enw da'r Cyngor, penderfynwyd peidio â chanslo’r buddsoddiad, a gadwyd llonydd iddo am ddeg diwrnod heb unrhyw golled ariannol i’r Cyngor.

 

O ran yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â gweithgarwch Rheoli'r Trysorlys yn chwarter cyntaf 2018/19, rhannwyd dadansoddiad diwygiedig o fenthyciadau hirdymor, lle dilëwyd dau fenthyciad a dalwyd yn ôl fis Ebrill 2018.

 

Cyn mynd ati i ystyried Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn ddilynol, byddai Ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys yn darparu sesiwn hyfforddiant i’r Aelodau fis Ionawr 2019.

 

Holodd y Cynghorydd Johnson am wybodaeth yngl?n ag FMS, y cwmni sy’n darparu benthyciadau LOBO, a gofynnodd a oedd y benthyciadau'n cael eu dal yn y Deyrnas Gyfunol neu yn Ewrop, a chytunodd y swyddogion i ddarparu ymatebion ar wahân.  Soniodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro am y dull o ad-drefnu dyledion gydol y portffolio ar sail trafodaeth ag ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys.  O ran goblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, byddai’r swyddogion yn meithrin cyswllt â’r ymgynghorwyr er mwyn llunio’r strategaeth orau bosib pan fyddai gwybodaeth yn dod i’r amlwg.

 

Holodd Sally Ellis pa gamau a gymerwyd er mwyn atal unrhyw achosion eraill o fynd yn groes i’r polisi.  Esboniodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro’r amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad, gan ddweud y datblygwyd y system er mwyn cryfhau’r dulliau rheoli, drwy rybuddio pan gyflwynwyd buddsoddiad uwchlaw'r terfyn a bennwyd er cymeradwyaeth.  Er bod y digwyddiad yn un anffodus, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ei fod yn achos ar ben ei hun o’r nifer o fuddsoddiadau a wnaethpwyd, a bod y tîm wedi meithrin cyswllt â’r Adain Archwilio Mewnol yngl?n â’r dulliau rheoli oedd bellach ar waith.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol ei bod yn fodlon ar y dulliau rheoli cryfach a gyflwynwyd mewn ymateb i’r digwyddiad neilltuol hwn, ac y byddai’r archwiliad nesaf yn cynnwys rhoi prawf ar y dulliau rheoli hynny.

 

I roi mwy o sicrwydd, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n cadw golwg ar hyn ac y byddai adroddiadau yn y dyfodol yn cynnwys datganiad i gadarnhau y dilynwyd y dulliau rheoli.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi Adroddiad Blynyddol drafft 2017/18 ar Reoli’r Trysorlys heb ddod ag unrhyw faterion at sylw'r Cabinet ar 17 Gorffennaf 2018; a  ...  view the full Cofnodion text for item 18