Mater - cyfarfodydd

Move from County Hall to Unity House

Cyfarfod: 25/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 13)

13 Symud o Neuadd y Sir i Unity House pdf icon PDF 87 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith, yn enwedig mewn perthynas â gwaith sy’n cael ei wneud gyda’r gwasanaethau a staff sy’n symud a gwaith ar gynllun mewnol yr adeilad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) yr adroddiad i roi diweddariad ar gynnydd y gwaith o symud o Neuadd y Sir i Unity House ac ar y gwaith oedd yn mynd ymlaen gyda gwasanaethau a staff yn symud, a chynllun mewnol yr adeilad.  

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) mai symudiad rhannol yw hwn ac y byddai nifer sylweddol o weithwyr yn parhau yng Nghamau 1 a 2 Neuadd y Sir am y tymor canolig.  Eglurodd fod ystod o waith wedi digwydd i sicrhau y gallai’r symud ddigwydd cyn diwedd y flwyddyn galendr a oedd yn cynnwys gwaith adeiladu yn Unity House, gwaith gyda staff gwasanaeth ac undebau i baratoi ar gyfer adleoli a gwaith i gaffael cynllunydd mewnol i gwblhau’r dasg o drefnu’r gofod yn Unity House.Adroddodd ar y prif ystyriaethau yn yr adroddiad a oedd yn darparu diweddariad llawn ar gynnydd a gwaith a gynlluniwyd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) mai’r gwasanaethau a nodwyd i symud i Unity House oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynllunio a’r Amgylchedd, Addysg a staff y Ganolfan Gyswllt.  Mae’r atodiad i'r adroddiad yn nodi’r nifer o staff sydd i symud, y gofod sydd ei angen o ran desgiau a'r lleoedd parcio sydd ar gael.Y bwriad oedd mai Unity House fyddai un o’r prif swyddfeydd a byddai wedi’i gynllunio ar gyfer gwasanaethau rheng flaen nad ydynt yn derbyn ymholiadau lle gall aelodau o’r cyhoedd gerdded i mewn, ond bod staff yn cyfarfod aelodau o’r cyhoedd a phartneriaid drwy apwyntiad. Er mwyn sicrhau fod y symud yn llwyddiannus roedd cynlluniau ychwanegol yn cael eu datblygu oedd yn cynnwys cynllun cyfathrebu mewnol ac allanol clir a chynllun teithio ar gyfer mynediad i’r safle.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r symud yn arwain at arbediad refeniw blynyddol i’r cyngor ac roedd cynlluniau i gynnwys y costau a ragwelwyd o fewn cyllidebau presennol.Siaradodd o blaid y symud rhannol ac eglurodd y byddai'r Gwasanaethau Corfforaethol, y Gwasanaethau Democrataidd, Gwasanaethau’r Aelodau a Chyllid yn parhau ar safle Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug hyd nes y byddai penderfyniad hirdymor yn cael ei wneud. Wrth gyfeirio at adnewyddu Unity House, dywedodd fod y cydbwysedd rhwng buddsoddiad doeth a darparu amgylchedd o ansawdd wedi ei ystyried yn ofalus ac am fuddsoddiad cymharol gymedrol fod yr Awdurdod wedi moderneiddio’r adeilad ac wedi darparu gofod swyddfa sydd fel newydd ac yn addas i staff ei ddefnyddio.Hefyd fe wnaeth y Prif Weithredwr sylw ar yr effaith negyddol roedd cyflwr yr adeilad yn ei gael ar drigolion lleol a staff y Cyngor a dywedodd fod gwneud y gwelliannau wedi bod yn angenrheidiol.   

 

Siaradodd y Cynghorydd Billy Mullin o blaid y buddsoddiad yn Unity House a gwnaeth sylw ar fanteision yr adeilad.Dywedodd fod staff yn frwd am y symud a bod y gwelliannau wedi codi morâl y staff.

 

                        Awgrymodd y Cynghorydd David Wisinger fod ymweliad safle yn cael ei drefnu ar gyfer y Pwyllgor i Unity House. Mynegodd bryderon yn ymwneud â threfniadau parcio ar gyfer staff ac ymwelwyr.Eglurodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 13