Mater - cyfarfodydd
Revised Guidance Issued Under Section 182 of the Licensing Act 2003
Cyfarfod: 28/06/2018 - Pwyllgor Trwyddedu (eitem 6)
6 Canllawiau diwygiedig a gyflwynwyd o dan adran 182 Deddf Trwyddedu 2003 PDF 80 KB
Er Gwybodaeth.
Cofnodion:
Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu adroddiad a oedd yn darparu canllawiau diwygiedig y Swyddfa Gartref a gyflwynwyd dan Adran 182 Deddf Trwyddedu 2003.
Roedd Adran 182 Deddf Trwyddedu 2003 yn nodi ei bod yn rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno ac, o dro i dro, adolygu canllawiau i Awdurdodau Trwyddedu ar gyflawni eu swyddogaethau dan Ddeddf 2003. Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ganllawiau diwygiedig ym mis Ebrill 2018 ac roedd dolen i'r ddogfen o fewn yr adroddiad. Tynnwyd sylw’r Aelodau'n benodol at newidiadau'r paragraffau yn Neddf Trwyddedu 2003, fel y nodwyd yn rhannau 1.05–1.09 yn yr adroddiad.
I gloi, eglurodd Arweinydd y Tim Trwyddedu nad oedd y crynodeb o newidiadau’n gynhwysfawr ac anogodd yr Aelodau i ystyried y ddogfen gyfan.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.