Mater - cyfarfodydd
Application to Transfer a Private Hire Operator Licence
Cyfarfod: 26/06/2018 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 3)
Cais i Drosglwyddo Trwydded Gweithredwr Llogi Preifat
I'r Aelodau ystyried cais i drosglwyddo trwydded gweithredydd llogi preifat a phenderfynu a yw'r ymgeiswyr yn addas ac yn briodol i ddal y drwydded.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (3/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (3/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (3/4)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (3/5)
- Restricted enclosure 6 , View reasons restricted (3/6)
Cofnodion:
Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais i drosglwyddo Trwydded y Gweithredwr Cerbyd Hurio Preifat. Dangoswyd y cais yn Atodiad A. Roedd deiliaid presennol y drwydded wedi darparu eu caniatâd ysgrifenedig i’r trosglwyddo a dangoswyd hyn yn Atodiad B ac Atodiad C.
Dechreuodd y Cyfreithiwr ar ei gwestiynau i’r Ymgeiswyr a gofynnodd am ba hyd yr oedden nhw wedi dal eu trwyddedau.
Rhoddodd yr ymgeiswyr fanylion yngl?n â hanes eu trwydded, ond roedd yna beth dryswch fodd bynnag yn ymwneud â’r dyddiadau y rhoddwyd y drwydded flaenorol i Ymgeisydd (b) a gofynnwyd i Arweinydd y Tîm Trwyddedu gael eglurhad yngl?n â hyn. Gohiriwyd y cyfarfod ar 2.22 pm
Ail ddechreuodd y cyfarfod am 2.29 pm a rhoddodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu eglurhad yngl?n â’r wybodaeth oedd ar y system drwyddedu yngl?n ag Ymgeisydd (b).
Yna gofynnodd y Cyfreithiwr i’r Ymgeiswyr pam y dylai’r Panel gefnogi’r cais hwn.
Mewn ymateb cyfaddefwyd y camgymeriadau oedd wedi'u gwneud yn y gorffennol. Ond roeddent wedi dysgu ohonynt ac yn hyderus gyda chymorth deiliad presennol y drwydded na fyddent yn gwneud yr un camgymeriadau eto.
Gofynnwyd i'r Ymgeiswyr ddarllen eu negeseuon e-bost ar dudalen 15 a 17 ac fe wnaed hynny.
Mewn ymateb i nifer o gwestiynau a godwyd gan y Cyfreithiwr rhoddodd yr Ymgeiswyr eglurhad ar y digwyddiad a arweiniodd at dderbyn yr 17 pwynt ar Drwydded y Gweithredwr.
Yna cyfeiriodd y Cyfreithiwr at y troseddau'n ymwneud â gyrru heb yswiriant a gofynnodd sut yr oedd hyn wedi digwydd.
Mewn ymateb cyfeiriodd yr Ymgeiswyr at fwrgleriaeth a ddigwyddodd yn y swyddfa a rhoddwyd gwybodaeth gefndir yn ymwneud â'r amgylchiadau a arweiniodd at yr erlyn. Ychwanegodd ei fod wedi cael cadw ei drwydded ar sail caledi eithriadol ond cafodd ei wahardd rhag gyrru am 8 diwrnod.
Yna gofynnodd y Cyfreithiwr am eglurhad ar eu swyddogaethau yn y cwmni tacsi blaenorol. Cadarnhawyd mai dim ond gyrwyr oeddent.
Yna cyfeiriodd y Cyfreithiwr at y cais ac at dudalen 4 a gofynnodd pam y gwrthodwyd y drwydded ond gwrthodwyd yr apêl yn y Llys Ynadon. Atebodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu drwy ddweud nad oedd yn sicr beth oedd y polisi ar y pryd a’i fod yn wahanol i’r polisi sydd mewn grym erbyn hyn. Rhoddodd eglurder ar linell amser y drwydded.
Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at dudalen 8, rhan 6 manylion yr ymgeisydd “a oes unrhyw unigolyn yn 1 uchod erioed wedi eu gwrthod o ran trwydded cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni neu fod trwydded o’r fath wedi ei atal / diddymu” a gofynnodd pam ei fod wedi croesi ‘do a na’ ac wedi ysgrifennu ‘na’ oddi tano.
Wrth ymateb dywedodd
Ymgeisydd (a) nad oedd ei drwydded erioed wedi ei diddymu a
dywedodd Ymgeisydd (b) ei fod wedi bod i’r llys a bod y
drwydded wedi ei rhoi.
Gofynnodd y Cyfreithiwr a oedd yna fwriad i gamarwain ac ymatebodd y ddau nad oedd yna fwriad.
Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at yr un dudalen (b) euogfarnau neu rybuddion – a gofynnodd pam fod ... view the full Cofnodion text for item 3