Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2018/19 - mid-year monitoring report

Cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 58)

58 Cynllun y Cyngor 2018/19 – Adroddiad Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        I adolygu cynnydd canol blwyddyn o flaenoriaethau ac amcanion Cynllun y Cyngor 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Gweithredol  Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol grynodeb lefel uchel o gynnydd canol blwyddyn ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23 gan ddarparu dadansoddiad o feysydd sy'n tanberfformio sy'n berthnasol i'r Pwyllgor.   Gwnaed cynnydd cadarnhaol o ran cyflawni camau gweithredu, mesurau a risgiau ar gyfer dros 80% o'r amcanion.

 

Oherwydd materion technegol, ni fu modd darparu'r atodiad manwl arferol ac felly trefnwyd adroddiad llawn ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr.   Yn dilyn cais a wnaed gan y Cynghorydd Jones yn flaenorol, roedd gwaith ar y gweill i ddatblygu darlun o'r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad.   Byddai hyn yn cael ei rannu yng nghyfarfod mis Ionawr, ynghyd â’r manylion ar ystod o wybodaeth perfformiad sydd ar gael i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i’w defnyddio ar gyfer adrodd ar berfformiad.

 

Cynigodd y Cynghorydd Jones y dylid gohirio ystyried yr eitem ymhellach tan gyfarfod mis Rhagfyr pan fyddai’r adroddiad llawn ar gael.   Eiliwyd hyn a chafodd ei gefnogi gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid gohirio ystyried yr adroddiad tan gyfarfod mis Rhagfyr.