Mater - cyfarfodydd

Flintshire Public Services Board: Well-being Plan for Flintshire 2017-2023 - mid year review

Cyfarfod: 13/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 69)

69 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint: Cynllun Lles ar gyfer Sir y Fflint 2017 – 2023 – Adolygiad Canol Blwyddyn pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        I nodi a chefnogi gwaith Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus a’r cynnydd o fewn y Cynllun Lles.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint wedi mabwysiadu’r Cynllun Lles, oedd wedi rhagnodi pum maes blaenoriaeth.

 

Siaradodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol am y brwdfrydedd a’r gwaith partneriaeth cryf ar draws y Bwrdd gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn cyflawni amcanion strategol.  Tra bo'r asiantaethau i gyd yn cyfrannu at y gwaith ar y pum blaenoriaeth, roedd partneriaid arweiniol yn rhannu gwybodaeth a dysgu yn effeithiol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Jones bryderon ar y penderfyniad i atal y flaenoriaeth Economi a Sgiliau am y flwyddyn gyntaf, yn enwedig o ystyried perfformiad uchel y Cyngor ar economi.  Eglurodd Swyddogion bod y penderfyniad i ganolbwyntio ar bedwar o'r pum thema yn rhannol oherwydd capasiti'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac hefyd i gyflawni eglurder yngl?n â lle gellid ychwanegu gwerth.    Byddai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dychwelyd at gynllunio gweithredu lleol ar y thema Economi a Sgiliau gan nodi bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (a’r cyn Fwrdd Gwasanaethau Lleol) wedi cwblhau gwaith ar flaenoriaethau ar gyngor ariannol a thlodi, a hyrwyddo mynediad at waith a phrentisiaethau yn y gorffennol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Johnson ei werthfawrogiad i swyddogion am y rhaglen cyd-nerthu cymunedol barhaus yn Holway oedd yn gwneud gwir wahaniaeth.  Siaradodd hefyd am werth y prosiect ‘Can Cook’ a’r Clwb Brecwast yn yr ardal.  Dywedodd y Prif Weithredwr bod hyn yn enghraifft gadarnhaol o waith aml asiantaeth dan arweinyddiaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a siaradodd am gynlluniau i ddatblygu model menter gymdeithasol lleol i fynd i’r afael â thlodi bwyd tra’n cynnig buddion cyflogaeth a chymunedol lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Aelodau'n cael sicrwydd ar lefel y cynnydd y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint wedi'i wneud hyd yn hyn.