Mater - cyfarfodydd

Flintshire Community Endowment Fund - Annual Report

Cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 61)

61 CRONFA GWADDOL CYMUNEDOL – ADRODDIAD BLYNYDDOL pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        I gefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol wrth gyflwyno eu Hadroddiad Blynyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a pherfformiad Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint (y Gronfa) ers yr adroddiad diwethaf ym mis Ionawr 2017. Cyflwynodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol yng Nghymru (CFIW) a roddodd gyflwyniad ar waith y Gronfa, yn ymwneud â’r canlynol:

 

·         Sefydliad Cymunedol – y wybodaeth ddiweddaraf

·         Hanes a Throsolwg o’r Gronfa

·         Perfformiad Ariannol y Gronfa

·         Crynodeb o ddyfarniadau grant a’r Gronfa ar gyfer 2018/19

·         Astudiaethau achos

 

Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar Gronfa'r Degwm (WCAF) a oedd wedi trosglwyddo i’r CFIW, a sefydlu Cronfa Cymorth Eiddo Penarlâg a’r Rhanbarth.   Yn ogystal â’r gwaith partneriaeth da rhwng y Cyngor, y CFIW a phreswylwyr Sir y Fflint, roedd cyfleoedd yn cael eu harchwilio i ddatblygu nifer o bartneriaethau newydd i elwa cymunedau lleol.   Adolygir rheolwyr buddsoddi bob tair blynedd er mwyn cynorthwyo i gyflawni'r nod o gynyddu'r arian a datblygu buddsoddiad yn ddoeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.   Adroddwyd twf o 6.4% yn y Gronfa dros y 12 mis diwethaf er y nodwyd rhywfaint o risg gwyliadwrus ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.   O’r cyfanswm o £25,682 o grantiau sydd ar gael ar gyfer 2018/19, roedd £6,779 wedi'i ddyfarnu hyd yn hyn.   Y dull newydd oedd nodi dulliau o gynyddu amrywiaeth a gwneud cysylltiadau cryfach drwy fireinio meini prawf a chynyddu hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth a defnyddio cyllid yn well.   Adlewyrchwyd hyn yn rhai o’r straeon a rannwyd o ran y grwpiau oedd wedi elwa.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd David Healey, eglurodd Mr.  Williams bod unigolion a grwpiau yn gallu cyflwyno cais am gyllid grant.   Cytunodd y byddai'n siarad gyda'r Cynghorydd Healey am yr enghraifft a roddodd.   Eglurodd y Swyddog Gweithredol bod ffurflenni gwahanol ar gyfer unigolion a sefydliadau, ac roedd y ddwy ffurflen ar gael ar wefan y Cyngor.

 

Croesawodd y Cynghorydd Heesom y cynnydd a adroddwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ar ran y Cyngor; ac

 

(b)       Y dylid diolch i Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, am ei bresenoldeb a’i gyfraniad yn y cyfarfod.