Mater - cyfarfodydd
Community Safety Partnership Annual Report
Cyfarfod: 20/09/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 40)
40 Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol PDF 100 KB
Pwrpas: Darparu sicrwydd a throsolwg i’r Aelodau o weithgareddau a chynnydd y Bartneriaeth yn 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - NW Safer Communities Board Plan 2017-21, eitem 40 PDF 527 KB
- Enc. 2 - NW Police Overview of Crime & Disorder Trends in Flintshire, eitem 40 PDF 301 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes yr adroddiad blynyddol a oedd yn darparu trosolwg o weithgareddau'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol dros y 12 mis diwethaf ac yn adlewyrchu ar waith rhanbarthol.
Cyflwynwyd aelodau’r Pwyllgor i'r Prif Arolygydd Jon Bowcott o Heddlu Gogledd Cymru; Ben Carter o Fwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru; Rhiannon Edwards, Ymgynghorydd Rhanbarthol Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol; a Richard Powell, Arweinydd Tîm Safonau Masnach.
Cafwyd cyflwyniad manwl ar y cyd yn ymwneud â'r meysydd canlynol:
· Cyd-destun
· Grwpiau Cyflawni Diogelwch Cymunedol
· Cyflawniadau
· Perfformiad
· Rhyngweithio gyda’r Bwrdd Cymunedau Diogelach
· Blaenoriaethau lleol ar gyfer 2018/19
Rhoddwyd eglurhad ar y gofynion statudol yn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a’r newidiadau mewn trefniadau llywodraethu oedd wedi arwain at strwythur symlach. Ymysg y cyflawniadau roedd amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, lle’r oedd Sir y Fflint yn perfformio’n dda. O ran rhwydweithio gyda Bwrdd Cymunedau Diogelach Gogledd Cymru, cydnabuwyd bod rhai materion yn well eu datrys ar lefel ranbarthol. Nodwyd manylion pedair blaenoriaeth leol ar gyfer 2018/19 yn yr adroddiad ynghyd â’r camau penodol a’u heffaith:
· Cam-drin domestig a Thrais Rhywiol
· Grwpiau Troseddol Cyfundrefnol
· Caethwasiaeth Fodern
· Cam-fanteisio Troseddol ar Blant
Er yr adroddwyd cynnydd mewn troseddau yn seiliedig ar ddioddefwyr ar gyfer 2017/18, Sir y Fflint oedd â’r cynnydd lleiaf yng Ngogledd Cymru. Eglurodd y Prif Arolygydd Bowcott bod y gostyngiad cenedlaethol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn deillio o’r newidiadau i’r modd y cofnodir y drosedd.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd McGuill, eglurodd y Prif Arolygydd Bowcott nad oedd modd rhoi adborth i aelodau’r cyhoedd sy’n rhoi gwybod am ymddygiad amheus bob tro. Rhoddodd sicrwydd y gweithredir ar unrhyw gudd-wybodaeth ond bod manylion y ffynonellau yn cael eu dileu i warchod yr unigolion hynny. Oherwydd y niferoedd uchel a alwadau y maent yn eu derbyn, roedd dulliau eraill o roi gwybod am gudd-wybodaeth nad yw'n argyfwng yn cael eu hyrwyddo megis LiveChat neu e-bost, neu drwy gyswllt gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a allai ddarparu adborth i breswylwyr.
Er mwyn cynorthwyo i reoli nifer y galwadau i’r rhif 101, awgrymodd y Cynghorydd Woolley y dylid cyflwyno neges awtomatig ar ôl pum munud i atgyfeirio’r rhai sy’n ffonio at ddulliau cyswllt eraill. Cytunodd y Prif Arolygydd Bowcott y byddai'n rhannu’r awgrym. Aeth yn ei flaen i drafod gweithrediad system ffôn newydd a fyddai’n cael ei datblygu dros amser i leihau amseroedd aros ar y ffôn.
Gofynnodd y Cynghorydd Johnson iddo rannu ei ddiolch i Gerwyn Davies (Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) am weithio gyda'r Aelodau lleol a chymunedau ar faterion yn y ward. Mewn ymateb i gwestiwn ar y modd y cofnodir pob math o droseddau ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda'i gilydd, rhoddodd y Prif Arolygydd enghraifft o'r cymhlethdodau wrth gofnodi troseddau a dywedodd bod newid mewn ystadegau yn dangos gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnydd mewn troseddu. Dywedodd os oes mater penodol lle bo’r Cyngor angen ystadegau yn ei gylch, gellir derbyn hyn o’r system.
Holodd y Cynghorydd Heesom am y cysylltiadau gyda’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ac am gyfleoedd i ferched ifanc gyfrannu ... view the full Cofnodion text for item 40