Mater - cyfarfodydd

Welsh Language Promotion Strategy

Cyfarfod: 14/02/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 93)

93 Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Nodi a chefnogi’r drafft terfynol o’r Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg yn cynnwys adborth o’r ymgynghoriad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Polisi Strategol adroddiad gyda’r Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg bum mlynedd derfynol ar gyfer Sir y Fflint, i’w hystyried cyn cael ei mabwysiadu gan y Cabinet.  Mae’n ofyniad ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i gynhyrchu strategaeth i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg.

 

Rhoddwyd trosolwg o’r prif bwyntiau a gododd yn ystod y broses ymgynghori a oedd wedi creu ymatebion gan 157 o unigolion.  Cafwyd cydnabyddiaeth, er mwyn cyflawni targed Llywodraeth Cymru i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg, y byddai’n rhaid i’r Cyngor weithio gyda phartneriaid amrywiol i hyrwyddo dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a chynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.  Cydnabuwyd hefyd y gellir archwilio dull partneriaeth rhwng Sir y Fflint a Wrecsam i adeiladu ar waith fforwm presennol y Gymraeg er mwyn hyrwyddo strategaethau’r ddau Gyngor a rhannu’r hyn a ddysgir.

 

Wrth groesawu’r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Hessom at y diwydiannau creadigol a’r celfyddydau lle gallai mwy o ddefnydd o’r iaith Gymraeg ffynnu.  Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai enghreifftiau o fentrau Cymraeg yn Theatr Clwyd ac mewn hybiau gael eu hadlewyrchu’n gliriach yn y Strategaeth.

 

O ran cyllid, cynghorwyd y Cynghorydd Bateman bod cyfleoedd i fanteisio ar grantiau yn cael eu hamlygu i fusnesau bach a sefydliadau gwirfoddol.

 

Talodd y Cynghorydd Johnson deyrnged i’r Cynghorydd Tudor Jones i godi proffil yr iaith Gymraeg i fusnesau bach a sefydliadau gwirfoddol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Cunningham i’r Cynghorydd Tudor Jones am godi proffil  y Gymraeg a rhoddodd ganmoliaeth i’r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr.  Dosbarthwyd llythyr gan y Cynghorydd Jones i’r Pwyllgor lle diolchodd i Aelodau am eu cyfranogiad yn yr arolwg diweddar a oedd wedi creu canlyniadau cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg, cyn iddi gael ei mabwysiadu gan y Cabinet;

 

(b)       Y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi adolygiad o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Menter Iaith Fflint a Wrecsam a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu fforwm isranbarthol er mwyn monitro a datblygu Strategaethau Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg yn y ddwy sir.