Mater - cyfarfodydd

Revenue budget monitoring 2018/19 (Interim)

Cyfarfod: 12/07/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 33)

33 2018/19 monitro cyllideb refeniw (interim) pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas:  Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad yn nodi risgiau a materion allweddol sy’n berthnasol i sefyllfa alldro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Eglurodd mai’r adroddiad dros dro oedd adroddiad monitro cyllideb refeniw cyntaf 2018/19 ac darparodd wybodaeth ar gynnydd o ran cyflawni effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn erbyn y targedau a osodwyd ac adrodd drwy eithriad ar amrywiadau sylweddol a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2018/19.  

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol er ei bod yn gam cynnar yn y flwyddyn ariannol, effaith net cychwynnol y risgiau a'r amrywiadau sy'n dod i'r amlwg fel y nodwyd yn yr adroddiad, yw y rhagwelir bod gwariant yn £1.619m yn is na'r gyllideb.   Fodd bynnag, aeth yn ei flaen i egluro ei bod yn bwysig nodi heb y buddion cyllidebol dros dro o'r Isafswm Darpariaeth Refeniw (£1.4m) a’r ad-daliad TAW (£1.9m) roedd risgiau net o £1.7m i'r Cyngor eu rheoli.  Byddai gwaith monitro manwl cyntaf yr holl risgiau ac amrywiadau yn cael eu hadrodd i’r Cabinet ar 25 Medi 2018.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y prif ystyriaethau, o ran trafodaethau cyflog ar gyfer Staff Cenedlaethol a’r Cyngor (NJC), gorwariant lleoliadau y tu allan i’r sir, gwasanaethau iechyd meddwl – gorwariant lleoliadau preswyl, Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig, tanwariant Darpariaeth Isafswm Refeniw, a thanwariant ad-daliad TAW.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Richard Jones y sylwadau a wnaeth mewn cyfarfodydd blaenorol yngl?n â’r galw am gronfa ganolog Cymru ar gyfer cyllid y tu allan i'r sir ar gyfer cynghorau Cymru.  Nododd y Prif Weithredwr bod rhai darparwyr gofal ar draws y DU yn codi cyfraddau cost uchel anghynaliadwy ar gyfer gofal arbenigol penodol.   Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid anfon llythyr at LlC yn amlinellu'r angen ar gyfer cyllid ychwanegol i gynorthwyo awdurdodau lleol ac fe gytunwyd y byddai hyn yn cael ei ystyried ymhellach yn dilyn ail weithdy'r gyllideb a gynhelir ar 23 Gorffennaf.

 

Mewn ymateb i bryder gan y Cynghorydd Haydn Bateman o ran incwm o wastraff ailgylchu, eglurodd y Prif Weithredwr bod incwm o ailgylchu eitemau plastig, papur a cherdyn wedi gostwng yn sylweddol oherwydd newidiadau i’r farchnad ryngwladol.   Nododd bod y potensial ar gyfer incwm o ailgylchu dillad yn faes y gellir ei ystyried ymhellach.

 

Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon o ran y risgiau ariannol sy’n gysylltiedig ag ysgolion.   Nododd nifer yr ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint sydd mewn sefyllfa o ddiffyg ariannol ac effaith bellach posibl y dyfarniad cyflog ar gyfer athrawon a fyddai'n cael ei gytuno'n genedlaethol.   Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y mesurau a gymerwyd gan yr Awdurdod i wella cyllid ysgolion a nododd bod rhagor o waith ar y gweill gan y Cabinet i roi cymorth i gyllidebau ysgolion lle bynnag y bo modd yn y dyfodol fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.    Nododd y Prif Weithredwr mai dim ond drwy gyllid cenedlaethol y gellir datrys y risgiau ariannol nid trwy gyllid lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nododd y Pwyllgor y sefyllfa a chadarnhau nad oedd unrhyw faterion i’w  ...  view the full Cofnodion text for item 33