Mater - cyfarfodydd

Clwyd Pension Fund Accounts 2017/18.

Cyfarfod: 13/06/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 5)

5 Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2017/18. pdf icon PDF 93 KB

Darparu Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2017/18 i Aelodau’r Pwyllgor i’w hystyried a newidiadau i’r broses cymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Ferguson, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, yr eitem hon trwy esbonio bod ei rôl yn cynnwys cyfrifoldeb cyfreithiol dros weinyddu cyllid a chyflwyno cyfrifon ar amser.  Esboniodd bod newid wedi bod yn y ddeddfwriaeth a oedd wedi arwain at wahanu cyfrifon y Gronfa Bensiynau oddi wrth prif gyfrifon y Cyngor.  O ganlyniad, roedd Pwyllgor y Gronfa Bensiynau bellach yn gyfrifol am gytuno’n ffurfiol ar eu cyfrifon eu hunain, lle byddai hyn wedi bod yn gyfrifoldeb i'r Cyngor yn y gorffennol gan eu bod yn rhan o gyfrifon y Cyngor.

           

Trosglwyddodd y Cadeirydd yr eitem hon i Mr Worth, ymgynghorydd annibynnol a benodwyd i baratoi cyfrifon y Gronfa ar gyfer y flwyddyn bresennol nes bo swydd wag barhaol yn cael ei llenwi yn y Tîm Cyllid. Rhoddodd Mr Worth gyflwyniad cryno am ei brofiad a’i rôl bresennol yng Nghronfa Bensiynau Clwyd ac eglurodd y byddai’r cyfrifon blynyddol drafft yn cael eu cyflwyno i Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) erbyn 15 Mehefin 2018.  Bydd SAC yn dechrau'r archwiliad ym mis Mehefin / Gorffennaf 2018.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig ymchwilio i arddull, fformat ac ansawdd y cyfrifon.

 

Amlinellodd Mr Worth y dylid paratoi’r cyfrifon yn ôl Cod Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) (“Y Cod”) lle caiff cod newydd ei ddosbarthu bob blwyddyn i adlewyrchu’r newidiadau i’r Safonau Cyfrifeg. Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r cyfrifon gael eu gwahanu oddi wrth gyfrifon y Cyngor. Mae Cymru bellach yn dilyn y model a fabwysiadwyd gan yr Alban dair blynedd yn ôl h.y. Nid yw cyfrifon CPLlL bellach yn cael eu cynnwys yn natganiad cyfrifon ar wahân yr awdurdod gweinyddu ond maent yn parhau i gael eu hadrodd yn yr Adroddiad Blynyddol erbyn 1 Rhagfyr 2018 fan bellaf. Caiff y cyfrifon wedi’u harchwilio eu cynnwys yn Adroddiad Blynyddol y Gronfa a’u cyflwyno i’w cymeradwyo gan y Pwyllgor ar 5 Medi 2018.

 

Cyflwynodd Mr Worth y cyfrifon a phwysleisiodd elfennau penodol wrth y Pwyllgor er gwybodaeth gefndirol. Y pwyntiau allweddol oedd:

 

  • O sleid 4, y cyfraniadau arferol yw’r cyfraniadau a wna’r cyflogwr i weithwyr yn ystod y flwyddyn

 

  • Mae cyfraniadau diffygion yn cael gwared ar y diffyg mewn cyllid sydd wedi’i ariannu yn is na 100%. Yng nghyfrifon 2016/17, roedd y cyfraniadau diffygion oddeutu £28 miliwn tra bod y ffigwr hwn oddeutu £52 miliwn yn 2017/18. Mae hyn yn adlewyrchu bod tri cyflogwr wedi talu eu cyfraniadau diffygion o flaen llaw. Mae hyn yn fanteisiol oherwydd ei fod yn ffigwr gostyngol (ar gyfradd gostyngiad yr actiwari) gan fod y cyflogwr wedi talu gwerth tair blynedd o gyfraniadau yn y flwyddyn gyntaf.

 

  • Cyfraniadau ychwanegol yw’r cyfraniadau megis ar gyfer ymddeoliadau cynnar heb fod ar sail salwch h.y. buddion heb ostyngiadau cyn oedran ymddeol arferol.

 

  • Ffigwr allweddol yw’r newid yng ngwerth buddsoddiadau ar y farchnad gan fod hyn yn sail i’r symud yng ngwerth y farchnad sy'n cysoni'r asedau ar y dechrau a'r diwedd.