Mater - cyfarfodydd
Repairing Potholes and Preparing the Annual Carriageway Resurfacing Programme
Cyfarfod: 12/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 6)
6 Trwsio tyllau ffordd a pharatoi’r Rhaglen Blynyddol o Ail-wynebu Ffyrdd PDF 91 KB
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am gynnwys y rhaglenni ail-wynebu ffyrdd cerbydau arfaethedig a darparu eglurhad o’r rhesymeg a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r rhaglen. Bydd yr adroddiad hefyd yn darparu gwybodaeth am ddull y Cyngor o drwsio ceudyllau yn ystod cyfnod y gaeaf
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Resurfacing Programmes, eitem 6 PDF 52 KB
- Appendix 2 - Surface Dressing Schemes, eitem 6 PDF 45 KB
- Appendix 3 - Priority Resurfacing Schemes, eitem 6 PDF 37 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd adroddiad i amlinellu’r dull tuag o nodi diffygion a rhoi manylion ar wariant cyfalaf a lefelau buddsoddiad ynghylch y Rhwydwaith priffyrdd, cost a budd trwsio tyllau yn y ffordd dros dro a’r rhesymeg tu ôl i’r angen am waith trwsio dro ar ôl tro ar wynebau rhai ffyrdd oherwydd fod yr un tyllau yn ailymddangos yn y ffyrdd. Dywedodd fod yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion y rhaglenni arfaethedig o ailosod wynebau ffyrdd ar gyfer 2018/19.
Rhoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Ffordd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at lefel y buddsoddiad cyfalaf oedd ei angen i gynnal cyflwr y ffyrdd yn eu stad bresennol. Cyfeiriodd at ddyraniad yr Awdurdod o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cynnal ffyrdd, ynghyd â dyraniad cyfalaf y Cyngor a oedd angen ei ddyrannu’n ofalus i ddod â’r budd mwyaf posibl. Dywedodd fod pob ffordd wedi eu harolygu i ddatblygu rhaglenni ailosod wyneb, a ddangoswyd yn yr atodiad i’r adroddiad.
Holodd y Cynghorydd Vicky Perfect pam mai dim ond dau safle parcio ar gyfer ceir electronig oedd yna yn y Sir. Dywedodd y Prif Swyddog fod strategaeth yn cael ei datblygu a chytunwyd y byddai eitem ar y testun hwn yn cael ei gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w ystyried yn y dyfodol gan y Pwyllgor.
Diolchodd Aelodau i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) a’i dîm am gynnal y rhwydwaith briffyrdd yn ystod cyfnodau o dywydd gaeafol difrifol.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.