Mater - cyfarfodydd

Environmental Enforcement in Flintshire

Cyfarfod: 12/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 5)

5 Gorfodaeth Amgylcheddol yn Sir y Fflint pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:  Darparu manylion i’r Pwyllgor am y gweithgareddau Gorfodaeth Amgylcheddol a wnaed gan Dîm Gorfodaeth y Cyngor a Kingdom Securities ar ran y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Carolyn Thomas adroddiad i ddarparu manylion i’r Pwyllgor am y gweithgareddau Gorfodaeth Amgylcheddol a wnaed gan Dîm Gorfodaeth y Cyngor a Kingdom Securities ar ran y Cyngor  Gwahoddodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad yn amlinellu’r dull o ymdrin â’r holl faterion sy’n ymwneud â gorfodaeth amgylcheddol, gan gynnwys taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon, gwastraff ychwanegol a’r effaith mae’r gwaith yn ei gael ar lendid strydoedd a dangosyddion perfformiad eraill.  Cyfeiriodd at y Polisi Gorfodi Amgylcheddol a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn 2013 a nododd ei ymagwedd tuag at bob agwedd ar

orfodi amgylcheddol.  Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y nodir yn yr adroddiad yn ymwneud â throseddau gollwng ysbwriel, baw c?n, gwastraff ychwanegol, tipio anghyfreithlon ar dir preifat, a cheir wedi eu gadael. 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Mark Mountford, Rheolwr Busnes Rhanbarthol, ac Eoin Henney, Rheolwr Busnes, Kingdom Securities Limited, a rhoddodd wahoddiad iddynt roi cyflwyniad ar y gweithgareddau gorfodi amgylcheddol a wnaed ar ran y Cyngor.  Roedd y cyflwyniad yn trafod y prif bwyntiau a ganlyn:

 

·         strategaeth batrolau

·         cyfanswm yr Hysbysiadau Cosb Benodedig a gyflwynwyd

·         troseddau 2016-17 a 2017-18

·         cymhareb dynion / merched a bandio oed 2016-18

·         Canrannau ethnigrwydd 2016-18

·         Lleoliadau Hysbysiadau Cosb Benodedig

·         Newid ymddygiad

 

Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r trefniant presennol gyda Kingdom Securities Limited yn dod i ben a adroddodd ar y dewisiadau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a oedd ar gael ar gyfer gorfodi amgylcheddol ar lefel isel o fewn y Sir i’w hargymell i’r Cabinet.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mark Mountford ac Eion Henney am eu cyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at nifer yr Hysbysiadau Cosb Penodol a roddwyd am sigaréts o’i gymharu â’r nifer a roddwyd am droseddau eraill, a nododd faw c?n fel enghraifft.  Mynegodd bryderon fod rhai ardaloedd yn cael eu targedu’n benodol i ddal pobl a oedd yn ysmygu sigaréts.  Gan gyfeirio at y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer model gweithredu i’r dyfodol, mynegodd y Cynghorydd Evans ffafriaeth i ymestyn darpariaeth fewnol y Cyngor drwy recriwtio i ddarparu’r un lefel o gwmpas ag y darparwyd gan Kingdom Securities Limited.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bernie Attridge sylw ar gost ac effaith weledol ysbwriel ar yr amgylchedd a dywedodd fod Kingdom Securities Limited wedi eu cyflwyno yn 2016 i gefnogi gorfodi troseddau amgylcheddol a’r tîm gorfodi mewnol.  Cyfeiriodd at y gwelliannau a gyflawnwyd mewn canol trefi o safbwynt glendid strydoedd a oedd yn cefnogi effaith dull goddef dim a phresenoldeb parhaus swyddogion gorfodi.  Dywedodd hefyd fod gwelliant wedi bod yn safle Sir y Fflint ar dabl sgoriau Cadwch Gymru'n Daclus.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Attridge at y nifer fechan o gwynion a dderbyniwyd o’u cymharu â nifer yr hysbysiadau cosb benodol a roddwyd a rhoddodd sicrwydd yr ymchwiliwyd i bob cwyn ac os byddent yn dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o gam-arfer, byddent yn ymdrin â hynny’n gadarn. Ychwanegodd y Cynghorydd Attridge fod Sir y Fflint  ...  view the full Cofnodion text for item 5