Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2018-19

Cyfarfod: 19/06/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 23)

23 Cynllun y Cyngor 2018-19 pdf icon PDF 68 KB

Cefnogi Cynllun y Cyngor 2018-23 gan gydnabod yr uchelgeisiau yn y flwyddyn a’r amcanion i’w cyflawni.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Mullin yr argymhellion yn yr adroddiad ar yr adolygiad blynyddol o Gynllun y Cyngor 2017-23 yr oedd ei strwythur a’i gynnwys wedi’i adnewyddu ar gyfer 2018-19. Diolchodd i’r Aelodau am eu mewnbwn yn y gweithdy diweddar ac yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Prif Weithredwr y dylid cyhoeddi’r Cynllun yn flynyddol ac roedd y cynnwys yn destun adolygiad treigl. Tynnodd sylw at yr atodiadau gan gynnwys yr ymatebion i ymgynghoriad yr Aelodau a chadarnhaodd bod y Cabinet wedi argymell cymeradwyo’r Cynllun.

 

Gwnaeth y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu gyflwyniad oedd yn cwmpasu’r canlynol:

 

·         Sut mae’r Cynllun yn cael ei ddwyn ynghyd

·         Dewis y blaenoriaethau o fewn y flwyddyn

·         Cynnwys newydd: materion cenedlaethol

·         Ymgynghori ag aelodau

·         Manteision cynllunio            

·         Cynllun y Cyngor 2018/19 ar gyfer eleni

·         Defnyddio’r Cynllun

·         Y camau nesaf

 

Yn ystod y cyflwyniad, atgoffwyd pawb am rôl Trosolwg a Chraffu mewn monitro cynnydd, ynghyd â’r Pwyllgor Archwilio mewn monitro risgiau strategol. Byddai’r nifer isel o faterion arwyddocaol parhaus o ran tanberfformiad yn 2017/18 yn destun monitro pellach drwy gynlluniau gweithredu a gytunwyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones, er gwaethaf ceisiadau blaenorol, nid oedd y diwygiadau wedi’u hamlygu yn Rhan 2 o’r Cynllun a rhoddodd enghreifftiau o newidiadau i fesuriadau a thargedau lle dylid fod wedi rhoi eglurhad, yr oedd yn cytuno i’w rhannu’n llawn ar ôl y cyfarfod. I alluogi’r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd statudol o ran cyhoeddi’r Cynllun, awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid newid yr argymhelliad i fabwysiadu Cynllun y Cyngor fel yr oedd, yn amodol ar adolygiad parhaus o dargedau ar gyfer gwella.

 

Roedd y Cynghorydd Jones hefyd yn awgrymu newidiadau i eiriad dau o’r effeithiau o dan y flaenoriaeth ‘Twf ac Adfywio’r Sector Busnes’ y dywedodd na ellid ei gynnwys ar yr adeg hon. O ran cyflawni ymrwymiadau drwy’r Fargen Twf Economaidd Ranbarthol (Eitem 2), cytunodd y Prif Weithredwr y dylid dileu’r ail frawddeg. O ran datblygu’r strategaeth gludiant ranbarthol a lleol (Eitem 7), cytunwyd y dylid diwygio’r pwynt bwled cyntaf i ddarllen ‘Cynnig y dylid cynnwys isadeiledd cludiant yng nghynnig y Fargen Twf Economaidd Ranbarthol’ i adlewyrchu’r nod hwn o fewn y flwyddyn.                                 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peers y dylai’r newidiadau sydd wedi’u tracio yn Rhan 1 o’r Cynllun adlewyrchu eglurhad o ran pam y cafodd nodau eu dileu. Mewn ymateb i ymholiadau, darparodd y Prif Weithredwr eglurhad o’r derminoleg yn y ddogfen. O ran y flaenoriaeth ‘Cartrefi Modern, Effeithlon ac sydd wedi’u Haddasu’, tra bo’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yn cydnabod y cais i adfer y nod o ddarparu cymaint â phosib o gartrefi fforddiadwy drwy’r broses gynllunio, amlygodd mai ychydig iawn o reolaeth oedd gan y Cyngor a ran dylanwadu ar berfformiad. Fel y cyfryw, awgrymodd y dylid cynnwys yr amcan fel trydydd pwynt bwled o dan ‘bydd cyflawniad yn cael ei fesur drwy’, ond heb darged gosodedig. Cytunodd y Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Bithell y dylid mesur y cynlluniau’n unigol gan nad oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 23