Mater - cyfarfodydd
Overview of Ethical Complaints
Cyfarfod: 04/06/2018 - Pwyllgor Safonau (eitem 4)
4 Trosolwg o Gwynion Moesegol PDF 76 KB
Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn nodi’r nifer a’r math o gwynion.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad am Drosolwg ar Gwynion Moesegol, sy’n rhoi cyfanswm cyfredol y cwynion sy’n honni torri amod y Cod a gyflwynwyd i Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus dros Gymru. Mae’r cwynion yn gwahaniaethu rhwng y gwahanol Gynghorau a’r Cynghorwyr ond heb eu henwi.
Bu nifer sylweddol o gwynion ynghylch un Cyngor Tref ers yr adroddiad blaenorol. O’r cwynion hyn, roedd un wedi ei gyflwyno gan aelod o’r cyhoedd a phenderfynodd yr Ombwdsmon ei ymchwilio.
Yn ymateb i gwestiwn gan Julia Hughes, eglurodd y Swyddog Monitro y gellid ychwanegu llinell amser at y data mewn adroddiadau’r dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi nifer a math y cwynion; a
(b) Chynnwys llinell amser gyda’r adroddiadau yn y dyfodol.