Mater - cyfarfodydd

Review of the Members’ Code of Conduct

Cyfarfod: 04/06/2018 - Pwyllgor Safonau (eitem 5)

5 Adolygiad o God Ymddygiad Aelodau pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn nodi bod y dystiolaeth yn dynodi bod y systemau presennol i’w gweld yn gweithio ac nad oes angen adolygu cod ymddygiad aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad Adolygiad o Gôd Ymddygiad yr Aelodau ac eglurodd bod Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu Cod Ymddygiad ar sail model cenedlaethol.

 

Adolygodd y Cyngor ei Gôd ddiwethaf yn 2016 pan fu iddo fabwysiadu’r model cenedlaethol. Bu’r Cyngor yn ofalus ei fod yn ceisio sefydlu diwylliant gwaith ar sail gwaith ac ymddygiad proffesiynol, sy’n hanfodol er mwyn gostwng ymddygiad sy’n arwain at gwynion. O ganlyniad, roedd nifer y cwynion am y Cynghorwyr Sir yn isel ac yn is na’r cymedr yng Nghymru. Roedd y Cyngor hefyd yn gallu datrys cwynion lefel isel trwy drafodaeth a/neu’r broses ddatrys leol heb fod angen cwyn ffurfiol.

 

            Yn ymateb i sylwad gan Rob Dewey, dywedodd y Swyddog Monitro y gallai roi manylion dienw'r cwynion yn 2017 a rhannu’r wybodaeth â’r Pwyllgor. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Johnson a oedd y Cyngor yn enwebu Cynghorwyr i gyrff heb Godau Ymddygiad. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei fod a bod llawer o gyrff allanol. Byddai Cod Ymddygiad y Cyngor yn berthnasol os nad oedd gan y cyrff eu codau eu hunain.

 

            Awgrymodd Julia Hughes y dylid anfon nodyn atgoffa i Glercod Cynghorau Tref a Chymuned i atgoffa’r Aelodau am y Cod Ymddygiad . Eglurodd y Swyddog Monitro bod gan bob Cyngor Tref a Chymuned ei Gôd Ymddygiad ei hun, ond bod modd anfon nodyn atgoffa. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi bod y dystiolaeth yn dangos bod y systemau i’w gweld yn gweithio ac nad oes angen adolygu Cod Ymddygiad yr Aelodau;

 

(b)       Anfon data dienw i’r Pwyllgor am y cwynion yn 2017; ac

 

(c)       Anfon nodyn atgoffa at Glercod Cynghorau Tref a Chymuned am y Cod Ymddygiad.