Mater - cyfarfodydd

Audit and Overview & Scrutiny Liaison Group

Cyfarfod: 21/06/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 6)

6 Archwiliad a Throsolwg a'r Grwp Ymgysylltu Archwilio pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas: hysbysu’r pwyllgor o drefniadau ar gyfer ymgysylltu rhwng Archwilio a Throsolwg a Swyddogaethau Archwilio.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i roi gwybod am y trefniadau ar gyfer ymgysylltu rhwng Swyddogaethau Archwilio a Throsolwg a Chraffu. Dywedodd eu bod wedi cytuno, yn dilyn cyfarfod rhwng swyddogion yr Adain Archwilio mewnol a Throsolwg a Chraffu, y byddai'n werth ail-ddechrau'r cyfarfodydd ymgysylltu â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio gan wahodd y chwech Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i fynychu, ynghyd â swyddogion o’r ddau dîm. Byddai cyfarfodydd yn cael eu trefnu ar sail chwarterol ac yn sicrhau eu bod yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion sydd o ddiddordeb i Archwilio a Throsolwg a Chraffu, megis rheoli risg strategol. Gofynnwyd i'r Pwyllgor gefnogi'r fenter hon.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Woolley y dylid cynnwys “os oes angen a bod rheswm da dros wneud” ar ddiwedd yr argymhelliad.

 

 Yn y bleidlais roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r cynllun ac yn cytuno y dylid ychwanegu’r geiriad “os oes angen a bod rheswm da dros wneud” yn yr argymhelliad.

 

            PENDERFYNWYD-

 

            Bod y Pwyllgor o blaid cyfarfodydd rheolaidd ar gyfer Cadeiryddion Archwilio a Throsolwg a Chraffu a swyddogion addas os oes angen a bod rheswm da dros wneud.