Mater - cyfarfodydd

Member Development Updates

Cyfarfod: 21/06/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 7)

7 Diweddariadau Datblygiad i Aelodau pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas: hysbysu’r pwyllgor o ddigwyddiadau datblygu aelodau diweddar, ac i ddod a mentrau newydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad diweddaru Datblygiad Aelodau i roi gwybod i'r Pwyllgor ynghylch digwyddiadau a chynlluniau Datblygu Aelodau'r dyfodol.  Eglurodd yn dilyn etholiadau'r llynedd, bod y Rhaglen Gynefino wedi'i chynllunio i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i Aelodau newydd a rhai sy’n dychwelyd er mwyn iddynt allu gweithredu’n effeithiol fel Cynghorwyr.  Rhoddwyd adroddiadau diweddaru ar broses digwyddiadau Datblygu Aelodau i’r Pwyllgor ac os oedd gan unrhyw un o'r Aelodau unrhyw argymhellion ar gyfer digwyddiadau'r dyfodol, gallent gysylltu â'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i’w trafod.

 

Tynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd sylw at y digwyddiadau Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ym mis Mai a Mehefin 2018 ac at ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ym mis Gorffennaf a mis Medi eleni, fel y nodir yn yr adroddiad.  Cyfeiriodd hefyd at yr hyfforddiant Ymwybyddiaeth Trais Domestig a gweithdy Rhianta Corfforaethol fydd ar gael i Aelodau ar 17 Medi, a fydd yn cynnwys cyflwyniad ar ymwybyddiaeth Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig (ASD).  Atgoffwyd aelodau, yn ogystal â’r hyfforddiant Cymraeg sy’n cael ei gynnal drwy Coleg Cambria, bod croeso iddynt hefyd gymryd rhan yng ngr?p amser cinio aelodau staff, Gr?p Sgwrsio’n Gymraeg.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Chris Bithell sylw ar ddiffyg presenoldeb mewn digwyddiadau Datblygu Aelodau sy’n cael eu cynnal yn ystod y dydd. Mynegodd ei werthfawrogiad o'r sesiynau Gr?p Sgwrsio'n Gymraeg y mae Aelodau wedi'u gwahodd i'w mynychu.

 

Mewn ymateb i’r sylw ynghylch presenoldeb, fe wnaeth y Rheolwr Gwasanaeth Ddemocrataidd gydnabod bod y broblem o ddiffyg presenoldeb mewn rhai digwyddiadau Datblygu Aelodau yn broblem barhaus oherwydd nifer o resymau.    Eglurodd y caiff sesiynau bore, prynhawn a chyda’r nos eu cynnal pan yn bosibl i hwyluso pethau yn ôl anghenion Aelodau, fodd bynnag, nid oedd yn bosibl cynnal bob digwyddiad hyfforddi gyda'r nos. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod y Prif Weithredwr wedi dweud os nad yw Aelod yn gallu mynychu sesiwn hyfforddiant sydd o ddiddordeb iddynt, y gall swyddogion ddarparu sesiwn un-i-un er mwyn bodloni'r angen.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Paul Shotton y gall Arweinwyr Gr?p fynd i’r afael â’r broblem o ddiffyg presenoldeb mewn digwyddiadau datblygu gydag Aelodau.

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd David Haeley yn ymwneud â materion cynllunio a Chynghorau Tref a Chymuned, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i ysgrifennu at holl Glercod Cynghorau Tref a Chymuned i roi gwybod bod cyfarfodydd Pwyllgor Cynllunio'r Awdurdod ar gael i’r cyhoedd eu gwylio drwy we-ddarlledu ar wefan yr Awdurdod gyda rhaglen gyfatebol ac adroddiadau ceisiadau. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y dylid cynnwys bob digwyddiad Datblygu Aelodau ar y dyddiadur wythnosol a ddarparwyd gan dîm Gwasanaethau'r Aelodau i Aelodau cyn i'r cyfarfodydd a'r digwyddiadau gael eu cynnal.

 

PENDERFYNWYD-

 

 (a)      Y dylid nodi datblygiad digwyddiadau Datblygu Aelodau; 

 

 (b)      Y dylid trafod argymhellion ar gyfer digwyddiadau Datblygu Aelodau â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd; ac

 

 (c)       Y bydd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn ysgrifennu at Glerciaid Cynghorau Tref a Chymuned i roi gwybod cyfarfodydd Pwyllgor Cynllunio'r Awdurdod ar gael i’r cyhoedd eu gwylio drwy gwe-ddarlledu ar wefan yr Awdurdod.