Mater - cyfarfodydd

Tourism promotion and destination management

Cyfarfod: 12/07/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 12)

12 Hybu twristiaeth a rheoli cyrchfan pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad i Aelodau am y dulliau gweithio newydd ar                 gyfer hyrwyddo i ymwelwyr rhwng y Gwasanaethau Cefn Gwlad               a Thwristiaeth a thrafod dulliau gwaith y dyfodol ar gyfer rheoli                 cyrchfannau a rôl pob gwasanaeth.

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Menter ac Adfywio) yr adroddiad yngl?n â Hybu Twristiaeth a Rheoli Cyrchfannau, a oedd yn ymdrin â’r dulliau a ddefnyddiwyd yn Sir y Fflint a’r rhanbarth ehangach i hybu’r economi dwristiaeth drwy weithgarwch hyrwyddo, a rheoli a gwella’r profiad a gynigir i ymwelwyr. 

 

            Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am waith y Gwasanaeth Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol a’r Gwasanaeth Twristiaeth, a oedd ill dau wedi chwarae rhan arwyddocaol ar y cyd, a byddai cyfleoedd i gydweithio mwy yn y dyfodol yn sgil ailstrwythuro yn ddiweddar.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Shotton i’r swyddogion am yr adroddiad a gwnaeth sylw ar y cynnig twristiaeth yn Sir y Fflint. Cynnig a oedd y Pwyllgor wedi ei weld dros ei hun yn ystod ei gyfarfod diweddar a gynhaliwyd yng Nghanolfan Dreftadaeth Maes Glas.  Gwaeth sylw ar gyflwyniad diweddar y sgyrsiau a’r teithiau cychod ger y Cei a chanmolodd waith Ceidwaid y Sir ar hyd llwybr yr arfordir. 

 

            Diolchodd y Cynghorydd Vicky Perfect i’r Rheolwr Gwasanaeth (Mynediad a’r Amgylchedd) a’i dîm am osod meinciau newydd ar hyd llwybr yr arfordir ger Castell Fflint. Gwnaeth sylw ar lwyddiant y digwyddiad Rock the Castle yn Y Fflint a fynychwyd gan 2,000 o bobl a diolchodd i Geidwaid yr Arfordir am eu cyfraniad ac am feirniadu’r gystadleuaeth castelli tywod. 

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dolphin i’r Rheolwr Gwasanaeth (Mynediad a’r Amgylchedd) a’i dîm am eu gwaith caled. Gofynnodd pryd a fyddai modd gosod arwydd i ymwelwyr ar yr A55 i hyrwyddo Ffynnon Sant Gwenffrewi ac ardaloedd cyfagos. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Menter ac Adfywio) fod y Cyngor yn darparu arwyddion brown a gwyn a bod adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i nodi lle'r oedd bylchau ar draws y Sir. Roedd angen bod yn ofalus â’r cyllid oedd ar gael ond pan fyddai mwy o arian ar gael gan Lywodraeth Cymru, byddai’r Cyngor mewn sefyllfa i gyflwyno ceisiadau am gyllid drwy gael y cynlluniau priodol ar waith.

 

            Dywedodd yr Aelod Cabinet Datblygu Economaidd bod angen newid agweddau am Sir y Fflint. Dywedodd bod 80% o Sir y Fflint yn wledig ond nid oedd hyn wedi’i gydnabod drwy argaeledd cyllid Ewropeaidd. Y gobaith oedd y byddai yn cael ei ddatrys drwy Gynnig Twf Gogledd Cymru ac er bod yr economi ymwelwyr yn Sir y Fflint yn rhan gymharol fechan o economi Sir y Fflint, roedd yn dal i wneud cyfraniad pwysig, a oedd yn cynhyrchu oddeutu £252m  y flwyddyn.

 

            Wrth drafod Cynnig Twf Gogledd Cymru, dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai Sir Y Fflint yn gallu cymryd mantais o’r cyfleoedd buddsoddi cyfalaf yng Nghaergybi o ran Llongau Mordeithiau a phleserdeithiau o fewn cwmpas 1 awr.  Dywedodd bod nifer yr ymwelwyr Japaneaidd ar draws Gogledd Cymru wedi cynyddu o 84% ac er bod gan Sir y Fflint lawer iawn o atyniadau, nid oedd y llety yn yr ardaloedd o’r un safon â’r llety yng Nghernyw neu’n Ardal y Llynnoedd.           

                    

            Gwnaeth y Cynghorydd Legg sylw ynghylch Mynydd Helygain a diolchodd i’r swyddogion am eu gwaith caled  ...  view the full Cofnodion text for item 12