Mater - cyfarfodydd

Approval of Clwyd Pension Fund Statement of Accounts

Cyfarfod: 19/06/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 26)

26 Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Clwyd pdf icon PDF 70 KB

I gytuno y bydd Cronfa Bensiynau Clwyd yn cymeradwyo ei Gyfrifon Blynyddol ei hun ar ôl archwiliad allanol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr (Llywodraethu) yr adroddiad i alluogi Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd, fel y corff mwy priodol, i gymeradwyo datganiad cyfrifon terfynol Cronfa Bensiwn Clwyd, yn hytrach na’r Cyngor Llawn. Byddai’r ymagwedd hon, a gefnogwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, yn dal i gynnwys ystyriaeth o’r cyfrifon terfynol gan y Pwyllgor Archwilio.

 

Ar ran Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd, cadarnhaodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Dave Hughes, ei gefnogaeth ar gyfer yr ymagwedd hon.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod datganiad cyfrifon terfynol Cronfa Bensiwn Clwyd yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio ac yn cael ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd.