Mater - cyfarfodydd

Social Services Annual Report

Cyfarfod: 19/06/2018 - Cabinet (eitem 199)

199 Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Ystyried a yw’r adroddiad yn adlewyrchiad cywir o ofal cymdeithasol yn Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn nodi’r daith tuag at welliant ac yn gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau i bobl oedd yn hyrwyddo eu lles ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.

 

            Byddai’r adroddiad yn rhan bwysig o werthusiad Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, a byddai hefyd yn sail ar gyfer asesiad Swyddfa Archwilio Cymru o Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’r adroddiad gwella blynyddol.

 

            Cafodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd gyfle ymlaen llaw i ymateb i'r adroddiad drafft a chynnig sylwadau, ac roedd hynny wedi dylanwadu ar y negeseuon allweddol a'r blaenoriaethau yn y drafft terfynol.

 

            Amlinellodd yr Adroddiad Blynyddol drafft y blaenoriaethau gwella a bennwyd ar gyfer 2018/19, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y bu’r gwaith a wnaethpwyd gyda’r sector gofal a’r rhanddeiliaid yn hanfodol, a bod gwybodaeth wedi’i ddarparu ar wefan ar y cyd, Gofal@Sir y Fflint, i helpu darparwyr gyda recriwtio a chadw staff, hyfforddiant, hysbysebu digwyddiadau, rhannu arferion da a rhwydweithio gyda’i gilydd.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Jones i holl staff y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r arweinyddiaeth am gefnogi eu cynlluniau cyfalaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr Adroddiad Blynyddol.