Mater - cyfarfodydd

School Modernisation – School Standards and Organisation Act 2013 – Brynford and Lixwm Area School Review

Cyfarfod: 19/06/2018 - Cabinet (eitem 188)

188 Moderneiddio Ysgolion – Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 – Adolygiad Ysgol Ardal Brynffordd a Licswm pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:         Hysbysu am yr ymatebion yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol ar gyfer adolygiad Ysgol Ardal Brynffordd a Licswm.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ynghylch Moderneiddio Ysgolion – Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 – Adolygu Ysgol Ardal Brynffordd a Licswm, a oedd yn gofyn i’r Cabinet benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â chynnig statudol i newid trefniadaeth yr ysgol.

 

            Dechreuodd yr adolygiad fis Mehefin 2015 pan roddwyd ystyriaeth i ad-drefnu’r ddarpariaeth mewn tair ysgol, sef Rhos Helyg, Brynffordd a Licswm, gan fod pwyntiau sbardun wedi’u cyrraedd yn ôl polisi Moderneiddio Ysgolion y Cyngor. Fis Rhagfyr 2016 penderfynodd y Cabinet fwrw ymlaen ag ymgynghoriad statudol yngl?n ag uno ysgolion Licswm a Brynffordd ar un safle, a gadael Rhos Helyg fel yr oedd hi.

 

            Cyfarfu’r Cynghorydd Roberts â llywodraethwyr o Frynffordd a Licswm i glywed eu barn, yn ogystal â llywodraethwyr o Gilcain.Roedd llywodraethwyr Brynffordd o blaid uno, gan y gallai hynny ddenu buddsoddiad cyfalaf drwy raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Dymunai llywodraethwyr Licswm, fodd bynnag, greu ffederasiwn er mwyn sicrhau y byddai Ysgol Licswm yn aros yn ei chymuned. Ni lwyddodd yr ymdrechion i sefydlu ffederasiwn, ac felly fis Ionawr 2018, penderfynodd y Cabinet y byddai’n rhaid bwrw ymlaen â’r drefn ymgynghori statudol.

 

            Pwysleisiodd na chafodd y canlyniad ei ragderfynu ar unrhyw adeg o’r broses, a bod y Cyngor wedi bod yn deg ac yn agored wrth ymgynghori. Roedd pob ysgol dan adolygiad yn unigryw, ac roedd unrhyw benderfyniadau’n seiliedig ar rinweddau’r achos dan sylw. Gwelwyd tystiolaeth o hynny yn y gorffennol o ran y penderfyniadau a wnaethpwyd yngl?n â darparu addysg ôl-16 yn Sir y Fflint a chreu ffederasiwn rhwng Ysgol Maes Garmon ac Ysgol Mornant. Cyrhaeddwyd sawl un o’r pwyntiau sbardun ym Mholisi Moderneiddio Ysgolion y Cyngor, ac fe gydymffurfiodd y Cyngor â’r Cod yn llwyr wrth gynnal y drefn ymgynghori.

 

            Roedd yno bryderon gwirioneddol yngl?n â chynaladwyedd ysgolion bach yn y tymor hir yn yr hinsawdd economaidd bresennol, ac roedd y Cyngor am sicrhau y gallai llywodraethwyr ddal i fforddio penodi athrawon a staff cefnogi i weithio gyda’r dysgwyr yn y dosbarthiadau. Ar sail hynny, dywedodd y Cynghorydd Roberts na fedrai pethau aros fel yr oeddent. Gan ystyried fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o’r farn y dylid diogelu ysgolion bach ac ysgolion gwledig, galwodd ar Lywodraeth Cymru i roi gwell eglurder yngl?n â’r polisi ar gyfer ysgolion bach a rhai gwledig, gan gynnwys diffinio ‘gwledig' ac esbonio’r sail resymegol ar gyfer dosbarthu ysgolion Sir y Fflint yn unol â’r polisi hwnnw. Gofynnodd hefyd i Lywodraeth Cymru gadarnhau ei fwriad o ran cyllido ysgolion bach a rhai gwledig, gan ystyried pwysigrwydd y polisi i’r Llywodraeth, fel y gallai Cynghorau fel Sir y Fflint fod yn ffyddiog y byddai’r adnoddau angenrheidiol ar gael i sicrhau cynaladwyedd yn y dyfodol.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod nifer y disgyblion yn y naill ysgol a’r llall yn llai na’r isafswm a bennwyd yn angenrheidiol ar gyfer ysgol fach gynaliadwy.  Yn y ddwy ysgol roedd bron hanner y plant yn dod o’r tu allan i’r ardal, gan olygu bod lleoedd  ...  view the full Cofnodion text for item 188