Mater - cyfarfodydd
Collection of Water Rates as part of Council Rents
Cyfarfod: 17/07/2018 - Cabinet (eitem 222)
Casgliad o Gyfraddau Dwr yn rhan o Rhenti'r Cyngor
Pwrpas: I nodi'r materion cyfreithiol parhaus, ar lefel genedlaethol, yngl?n â chasglu ar gyfraddau d?r fel rhan o'r Rhenti Cymdeithasau Tai / Cyngor, ynghyd ag asesiad o gyngor cyfreithiol y Cyngor ei hun mewn perthynas â natur contract Sir y Fflint â D?r Cymru.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad yngl?n â Chasglu Ardrethi D?r fel rhan o Renti’r Cyngor, a oedd yn rhoi manylion am y cadarnhad a roddodd y Cwnsler ynghylch y sefyllfa i'r Cyngor o ran derbyn comisiwn i adlewyrchu'r costau gweinyddol oedd yn gysylltiedig ag ardrethi d?r.
PENDERFYNWYD:
(a) Parhau â’r gwasanaeth presennol o godi biliau a chasglu ardrethi d?r ar ran y cyflenwyr d?r;
(b) Nodi cyngor cyfreithiol y Cwnsler, a oedd yn cadarnhau nad oedd yn debygol iawn y byddai hawliadau yn erbyn y Cyngor yn llwyddo, er gwaethaf dyfarniad yr Uchel Lys yn achos Southwark; a
(c) Derbyn y gostyngiad 1.5% am dalu’n gynnar o 2019/20 ymlaen, ar sail cyngor y Cwnsler.