Mater - cyfarfodydd

Care Leavers Discount Scheme

Cyfarfod: 17/07/2018 - Cabinet (eitem 216)

216 Cynllun gostyngiadau Treth y Cyngor i rai sy’n gadael gofal pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        Ystyried rhoi cynllun gostyngiadau ar waith i rai sy’n gadael gofal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad yngl?n â'r Cynllun Gostyngiadau Pobl sy'n Gadael Gofal, a oedd yn amlygu meysydd o arferion da a nodwyd yn adroddiad Comisiynydd Plant Cymru, ‘Breuddwydion Cudd’.  Roedd yr adroddiad yn sôn am y gefnogaeth oedd ar gael i bobl ifanc oedd yn gadael gofal o ran tai, addysg a hyfforddiant, yn ogystal â chymorth personol ac emosiynol.

 

            Yn yr adroddiad gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo polisi ariannol newydd ar gyfer pobl oedd yn gadael gofal, gan roi gostyngiad hyd at 100% ar Dreth y Cyngor i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oedd yn gadael gofal ac yn byw yn Sir y Fflint.

 

            Plant sy’n Derbyn Gofal a phobl sy’n gadael gofal oedd rhai o'r grwpiau mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Gallai'r canlyniadau fod yn wael ar brydiau, ac roedd gan y Cyngor gyfrifoldeb i gynnig y cyfleoedd gorau posib i bobl oedd yn gadael gofal o ran eu dyfodol, wrth iddynt ymadael â gofal y Cyngor a dechrau byw’n annibynnol.  Roedd yno 75 o bobl yn gadael gofal yn Sir y Fflint, gyda 31 ohonynt yn 16-18 oed a 44 yn 19-25.

 

            Byddai Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor Dewisol ar gyfer pobl oedd yn gadael gofal yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu’r dyddiad cyntaf y codai atebolrwydd person yn gadael gofal i dalu Treth y Cyngor, os oedd hynny ar ôl 1 Ebrill 2018.

 

            Gweinyddid y cynllun yn unol â’r fframwaith polisi oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd yn pennu’r meini prawf cymhwyso ar gyfer gostyngiadau hyd at 100%. Roedd yr adroddiad yn amlinellu egwyddorion lefel uchel y cynllun a gynigiwyd.

 

            Byddai costau darparu'r cynllun yn 2019/20 yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ragamcanion ynghylch y gyllideb yn y dyfodol. Rhagwelwyd y byddai’r cynlluniau’n costio cyfanswm o £27,000.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Rhoi cymeradwyaeth i gyflwyno Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor Dewisol ar gyfer pobl oedd yn gadael gofal ac yn gymwys, a bod hynny’n dod i rym ar 1 Ebrill 2018. Y nod oedd cynnig gostyngiadau hyd at 100% i bobl hyd at 25 oed oedd yn gadael gofal ac yn byw yn Sir y Fflint. Byddai’r cynllun yn cynnwys pawb cymwys oedd yn gadael gofal ac yn byw yn Sir y Fflint, ni waeth pa awdurdod oedd yn darparu'r gofal; a

 

 (b)      Cefnogi’r Polisi Ariannol newydd ar gyfer pobl oedd yn gadael gofal, a chyhoeddi gwybodaeth hawdd ei ddarllen er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod pa gymorth ariannol y gallant eu hawlio gan y Cyngor.