Mater - cyfarfodydd
Holywell Leisure Centre Community Asset Transfer
Cyfarfod: 14/05/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 9)
Trosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon
Pwrpas: Adolygu cynnydd yn ystod 2017/18 ac i ystyried cynlluniau ar gyfer 2018
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (9/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (9/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (9/4)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (9/5)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Tudor Jones, Cadeirydd Canolfan Hamdden Treffynnon, gyflwyniad yn trafod adolygiad ar y cynnydd a wnaed yn 2017/18 a’r cynlluniau ar gyfer 2018. Rhoddodd wybodaeth gefndirol a gwahodd Ben Welsh – Rheolwr Cynorthwyol Canolfan Hamdden Treffynnon, a Magali Lovell-Pascal – Trysorydd Canolfan Hamdden Treffynnon, i adrodd ar y pwyntiau allweddol canlynol:
· Creu busnes cynaliadwy
· Adroddiad ariannol: y sefyllfa sydd ohoni
· Blwyddyn ariannol 2018-19 a thu hwnt
· Cyfryngau Cymdeithasol / Marchnata
· Incwm
Bu i Aelodau longyfarch y Rheolwyr, Ymddiriedolwyr a’r cyflogeion am eu gwaith caled a blwyddyn gyntaf werth chweil o weithredu fel Sefydliad Elusennol. Yn dilyn awgrym gan y Cadeirydd, cytunwyd anfon llythyr i Ganolfan Hamdden Treffynnon i fynegi gwerthfawrogiad y Pwyllgor.
Gofynnodd Aelodau gwestiynau ynghylch ceisio denu cyfraniad ariannol gan gynghorau tref a chymuned lleol at gostau rhedeg y Ganolfan Hamdden. Gofynnwyd cwestiynau eraill ynghylch y cyfleoedd i gynyddu incwm o ffynonellau allanol a mesurau ynni effeithiol.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Tudor Jones, Ben Welsh a Magali Lovell-Pascal am eu cyflwyniad ac am ateb cwestiynau Aelodau.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r Pwyllgor yn llongyfarch y Rheolwyr, Ymddiriedolwyr a Chyflogeion ar eu gwaith caled a blwyddyn gyntaf werth chweil o weithredu fel Sefydliad Elusennol, a dymuno’n dda at y dyfodol.