Mater - cyfarfodydd
Year-end Council Plan Monitoring Report 2017/18
Cyfarfod: 22/05/2018 - Cabinet (eitem 174)
174 Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18 PDF 189 KB
Pwrpas: Nodi a mabwysiadu Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor am 2017/18. Roedd Cyngor Sir y Fflint wedi perfformio'n dda ac yn unol ag adroddiadau monitro blaenorol ar gyfer Cynllun y Cyngor a’r adroddiadau Perfformiad Blynyddol.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod hwn yn adroddiad alldro cynnar gyda’r gwahanol feysydd gwasanaeth yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol. Byddai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad llawn.
Lle nad oedd targedau wedi cael eu cwrdd, neu lle dangosodd ddangosydd perfformiad statws RAG coch, byddai cynllun gweithredu’n cael ei gynhyrchu i edrych yn fanwl ar ba gamau y gellid eu cymryd i atal tanberfformio yn y dyfodol ac a ddylid cario’r dangosydd drosodd i Gynllun y Cyngor 2018/19 i gadw ei broffil. Byddai’r cynlluniau gweithredu’n cael eu hadrodd yn gyntaf i’r Cabinet.
Ychwanegodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda 83% o'r gweithgareddau wedi’u hasesu i fod wedi gwneud cynnydd da, a 74% wedi cyflawni’r canlyniad oedd mewn golwg. Dangosodd y dangosyddion perfformiad gynnydd da, gyda 56% wedi cwrdd neu'n agos at darged y cyfnod. Roedd risgiau’n cael eu rheoli’n llwyddiannus gyda’r mwyafrif wedi eu hasesu i fod yn gymedrol (63%), mân (8%) neu'n ddibwys (6%). Ar y risgiau, eglurodd fod y rhan fwyaf wedi eu dylanwadu gan ffactorau allanol fel newidiadau cyllid.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y lefelau cynnydd, perfformiad a risg yn adroddiad monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 yn cael eu nodi a’u cadarnhau; a
(b) Y dylai’r Cabinet gael ei sicrhau gan y cynlluniau a’r gweithredu i reoli'r gwaith o ddarparu Cynllun y Cyngor 2017/18.