Mater - cyfarfodydd
Parliamentary Review of Health & Social Care
Cyfarfod: 22/05/2018 - Cabinet (eitem 176)
176 Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol PDF 99 KB
Pwrpas: I drafod yr adolygiad seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a cheisio cyfraniad y Cabinet at waith y Gweithgorau cenedlaethol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Parliamentary Review of Health & Social Care, eitem 176 PDF 1 MB
- Enc. 2 for Parliamentary Review of Health & Social Care, eitem 176 PDF 47 KB
- Enc. 3 for Parliamentary Review of Health & Social Care, eitem 176 PDF 49 KB
- Enc. 4 for Parliamentary Review of Health & Social Care, eitem 176 PDF 109 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad ar yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi manylion a’r camau nesaf yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol.
Roedd y galw am ofal iechyd a chymdeithasol wedi cynyddu’n aruthrol dros yr ugain mlynedd diwethaf. Roedd hyn wedi creu her sylweddol i’r gwasanaethau cyhoeddus a phenderfynodd Llywodraeth Cymru (LlC) sefydlu’r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol i adnabod sut y gallai gwasanaethau cyhoeddus ragweld ac ymateb yn well i’r galw newydd arnynt.
Ar sail canfyddiadau’r ymgynghori a’r fforymau rhanddeiliaid, gwnaeth yr adroddiad terfynol ddeg o argymhellion i LlC oedd yn adlewyrchu canfyddiadau Adroddiad Interim Gorffennaf 2017 yn agos. Cafodd yr argymhellion eu crynhoi yn yr adroddiad.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod manylion wedi dod i law am Gronfa Arloesi a Thrawsnewid a bod £100m ar gael ar draws Cymru dros y ddwy flynedd nesaf. Y disgwyl oedd y byddai Gogledd Cymru’n derbyn tua £10m ac y byddai proses fidio’n dechrau ym mis Mehefin.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas pa mor bwysig oedd helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain er mwyn osgoi ynysu cymdeithasol a bod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan allweddol o hynny. Awgrymodd y gellid defnyddio peth o’r cyllid o’r Gronfa Arloesi a Thrawsnewid i’r pwrpas hwn. Croesawyd yr awgrym gan y Prif Swyddog a eglurodd fod argymhelliad 7: 'Harneisio arloesi a chyflymu datblygiadau technoleg a seilwaith’ wedi’i anelu’n benodol at bethau o’r fath. Dywedodd y Cynghorydd Shotton y gallai elfen strategaeth ddigidol argymhelliad rhif 7 gael ei chysylltu i'r cais ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r ymateb i’r adroddiad; a
(b) Bod y Cabinet yn cyfrannu at y gwaith cenedlaethol drwy drefnu bod Cyngor Sir y Fflint yn cael ei gynrychioli ar Fwrdd Rhaglen Ranbarthol Gogledd Cymru.