Mater - cyfarfodydd

Theatr Clwyd Revised Board of Governors Model

Cyfarfod: 22/05/2018 - Cabinet (eitem 180)

180 Diweddariad gan Theatr Clwyd am Aelodau’r Bwrdd pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Cytuno ar Aelodau’r Bwrdd ar gyfer blwyddyn 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) yr adroddiad ar Fodel Bwrdd Llywodraethu Diwygiedig ar gyfer Theatr Clwyd yn rhoi diweddariad ar gynnydd y gwaith gyda diwygio’r model ar gyfer Bwrdd Llywodraethu’r Theatr, gan gynnwys cynnig penodi unigolion i fod ar y Bwrdd.

 

            Roedd y rhestr o 13 unigolyn a gynigiwyd fel Aelodau Bwrdd am y flwyddyn 2018/19 wedi’i chynnwys yn yr adroddiad.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr mai’r camau nesaf gyda gloywi a diwygio’r model ar gyfer y Bwrdd Llywodraethu fyddai cynefino ar gyfer holl Aelodau’r Bwrdd ar ddechrau Mehefin, hyn i’w ddilyn gan gyfarfod cyntaf y Bwrdd nes ymlaen yn y mis. Byddai cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Bwrdd yna’n dod yn ôl o flaen y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo penodi’r 13 Aelod Bwrdd a restrwyd yn yr adroddiad, ac yn unol â’r model newydd ar gyfer y Bwrdd a gadarnhawyd gan y Cyngor.