Mater - cyfarfodydd

Food Poverty Strategy

Cyfarfod: 17/07/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 18)

18 Strategaeth Tlodi Bwyd pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        I rannu’r Strategaeth Tlodi Bwyd a rhoi diweddariad am rywfaint o’r gwaith Tlodi Bwyd sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Budd-Daliadau’r adroddiad yngl?n â’r Strategaeth Tlodi Bwyd, a oedd yn amlinellu’r flaenoriaeth strategol o weithio i ddatrys tlodi bwyd.

 

            Roedd y Strategaeth ddrafft ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1. Fe’i cyflwynwyd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ddiweddar, ac fe'i cyhoeddid yn fuan wedi i’r Bwrdd ei mabwysiadu.  Roedd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint o blaid datblygu cynlluniau mewn partneriaeth gyda’r nod o leihau tlodi yn y Sir, ac yn ddiweddar rhoddodd y Bwrdd gymeradwyaeth i ddatblygu a gweithredu Strategaeth Budd Cymunedol, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o flaenoriaethau strategol fel y’u nodwyd yn yr adroddiad.

 

            Fel yr esboniwyd yn yr adroddiad, roedd hi’n amlwg fod consensws cryf yngl?n â’r heriau a’r amcanion a bennwyd gan y bwrdd amlasiantaethol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bod llawer o sefydliadau unigol yn y gymuned yn gwneud gwaith da, fel banciau bwyd, er enghraifft.  Gan ystyried yr holl waith oedd yn digwydd yn y Sir a’r cytgord rhwng strategaethau a dyheadau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus amlasiantaethol Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, roedd angen cynllunio’r camau nesaf a dod i gytundeb yn eu cylch, yn ogystal â’r cyfraniadau y byddai'r partneriaid yn eu gwneud at gyflawni’r nodau oedd yn gysylltiedig â lleihau tlodi bwyd.

 

            Disgrifiodd y Rheolwr Budd-Daliadau nifer o gynlluniau allweddol y gellid eu cyflawni yn y flwyddyn gyntaf, fel y'u nodwyd yn yr adroddiad.  Un o’r rheiny oedd cyflwyno’r Rhaglen Llwglyd Dros y Gwyliau ar gyfer plant ysgol.  Roedd Mr. Robbie Davison wedi darparu manylion am y Rhaglen i'r Pwyllgor cyn dechrau'r cyfarfod.   

 

            I gloi, dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau fod Sir y Fflint ar flaen y gad wrth ffurfio cynghrair yng ngogledd Cymru er mwyn ennill gwell dealltwriaeth o’r materion rhanbarthol sy’n gysylltiedig â thlodi bwyd a diffyg sicrwydd cyflenwad bwyd.  Roedd gobaith y byddai cynhadledd tlodi bwyd oedd i'w chynnal yng ngogledd Cymru fis Medi'n gyfle i ystyried cydweithio ledled y rhanbarth i fynd i’r afael â’r materion hyn, drwy rannu arferion gorau, dysgu ar sail profiadau a gweithio ar draws sectorau.

 

            Diolchodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai i’r Rheolwr Budd-daliadau am yr adroddiad, ond mynegodd ei dristwch am fod angen y fath adroddiad, ac yngl?n â nifer y teuluoedd yn Sir y Fflint oedd mewn tlodi bwyd.  Soniodd am lansiad y Rhaglen Llwglyd Dros y Gwyliau oedd i’w gynnal ar 19 Gorffennaf, gan obeithio y byddai’r cynlluniau a gyflwynwyd yn yr adroddiad yn rhoi terfyn ar dlodi bwyd yn y dyfodol, nid yn unig i blant ond hefyd i bobl ddi-waith a phensiynwyr.

 

            Dywedodd yr Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ei fod yn Aelod o Fwrdd NEWydd, a oedd yn darparu prydau ysgol iach yn ystod y tymor, a’i fod yn falch o weld y darperid cynllun dros wyliau’r haf fel y gallai plant gael prydau bwyd cynnes ac iach.  Rhoddodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol longyfarchiadau i’r Rheolwr Budd-Daliadau a'i thîm, gan ddweud mor falch yr oedd o weld y cydweithio rhwng y Bwrdd Gwasanaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 18