Mater - cyfarfodydd
Year-end Council Plan 2017/18 Monitoring Report
Cyfarfod: 14/05/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 6)
6 Adroddiad Monitro Cynllun Cyngor 2017/18 y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn PDF 148 KB
Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Council Plan 2017/18 – Year-end Progress Report – Connected Council, eitem 6 PDF 589 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) Adroddiad Monitro Cynllun Diwedd y Flwyddyn y Cyngor 2017/18. Eglurodd fod yr adroddiad yn cyflwyno’r broses o fonitro cynnydd blaenoriaeth ‘Cyngor Cysylltiedig’ Cynllun y Cyngor a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.
Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndirol a dywedodd fod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn un cadarnhaol, roedd 81% o’r gweithgareddau a aseswyd yn gwneud cynnydd da, a 69% yn debygol o gael y canlyniad dymunol. Roedd dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da, roedd 84% yn bodloni neu bron â bodloni’r targed cyfnod. Câi risgiau eu rheoli’n llwyddiannus hefyd ac aseswyd y rhan fwyaf fel cymedrol (67%) neu fychan (10%).
Dywedodd y Prif Swyddog fod y dangosydd perfformiad canlynol wedi dangos statws coch ar gyfer ei berfformiad ar hyn o bryd yng nghyd-destun y targed gan y Pwyllgor:
Blaenoriaeth: Cyngor Cysylltiedig
Dangosydd: Canran y cymalau buddion cymunedol mewn contractau caffael newydd dan £1M
Dywedodd y Prif Swyddog na chanfuwyd unrhyw risg mawr a bod y cynnydd yng nghyd-destun y risgiau yn atodiad yr adroddiad hwn.
Wrth gyfeirio at y dangosydd uchod, gofynnodd y Cynghorydd Ian Dunbar am ragor o wybodaeth am y buddion cymunedol a ddeuai o’r 5 project a gaffaelwyd. Cytunodd y Prif Swyddog y byddai’n cyflwyno’r manylion i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.