Mater - cyfarfodydd
Year-end Council Plan 2017/18 Monitoring Report
Cyfarfod: 12/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 7)
7 Adroddiad Monitro Cynllun Cyngor 2017/18 y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn PDF 150 KB
Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18. Eglurodd fod yr adroddiad yn cyflwyno'r drefn o fonitro cynnydd ar flaenoriaeth ‘Cyngor Gwyrdd’ Cynllun y Cyngor a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.
Darparodd wybodaeth gefndirol a dywedodd bod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol gydag 83% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad, a 74% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Roedd y dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gydag 56% yn cyflawni neu bron a chyflawni targed y cyfnod. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (63%), mân risgiau (8%) neu’n risgiau ansylweddol (6%).
Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yna ddangosyddion perfformiad yn dangos statws coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed ar gyfer y Pwyllgor. Adroddodd ar y risgiau mawr canlynol a oedd wedi eu nodi ac eglurodd fod y cynnydd yn erbyn y risgiau yng Nghynllun y Cyngor wedi eu cynnwys yn yr atodiad i'r adroddiad.
Blaenoriaeth Cyngor Gwyrdd
Risg: Ni fydd cyllid yn cael ei ddiogelu ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd â blaenoriaeth
Risg: Tywydd garw ar y rhwydwaith priffyrdd.
Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Prif Swyddog i’r cwestiynau a godwyd yn ymwneud â chludiant i'r ysgol, ailgylchu gwastraff cyffredinol, a llifogydd lleol yn sgil datblygu cynyddol ar dir at ddibenion preswyl.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.