Mater - cyfarfodydd

Year-end Council Plan Monitoring Report 2017/18

Cyfarfod: 14/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 20)

20 Adroddiad Monitro Cynllun Cyngor 2017/18 y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn pdf icon PDF 154 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad cynnydd diwedd blwyddyn 2017/18 ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017-23 gan ddarparu dadansoddiad o feysydd sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Tynnwyd sylw at yr adran am lefelau perfformiad presennol gan ddangos nad oedd 58% o ddangosyddion perfformiad wedi cael eu cyflawni neu eu rhagori.  Fel yr adroddwyd yn y gweithdy diweddar i Aelodau, roedd targedau perfformiad yng Nghynllun y llynedd a oedd heb eu cyflawni a’u dwyn ymlaen i’r flwyddyn bresennol yn cael eu monitro gan Brif Swyddogion trwy gynlluniau gweithredu a gytunwyd.  Byddai’r rhain yn cael eu cynnwys fel rhan o adroddiadau perfformiad i’r Pwyllgor a’r Cabinet.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y ddogfen ar fesurau atebolrwydd cyhoeddus a oedd wedi cael ei rhannu â’r gweithdy a thynnodd sylw at nifer o anghysonderau yn yr adroddiad - roedd rhai eitemau ar goll o Gynllun y Cyngor ac eraill â chanlyniadau gwahaniaethol.  Cytunodd y byddai’n rhannu rhestr o bryderon gyda’r Prif Swyddog fel bo modd ymchwilio i’r rhain.

 

Dywedodd bod perfformiad ar Grantiau Cyfleusterau I'r Anabl yn hunan-ysgogol ac y dylid rhoi sgôr risg coch iddynt yn hytrach na melyn.  Er ei fod yn cydnabod bod esboniadau wedi’u rhoi o gamau gweithredu i wella canran yr arfarniadau blynyddol i weithwyr, teimlai y dylid rhoi sgôr risg coch i hynny hefyd.  Ar gamau gweithredu Cyngor Gwyrdd, gofynnodd am fwy o wybodaeth am ‘seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a chaffael cerbydau yng Nglannau Dyfrdwy’ er mwyn cael mynediad at waith, gwasanaethau iechyd, hamdden ac addysg.

 

Esboniodd y Prif Swyddog mai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru (LlC) oedd y mesurau atebolrwydd cyhoeddus ac felly nid oedd pob un yn cael eu cynnwys ym mlaenoriaethau'r Cyngor yng Nghynllun y Cyngor.  Oherwydd yr heriau mewn cysylltiad â Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, roedd y Cyngor wedi cytuno i gynyddu cyllideb 2018/19.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at drafodaeth am yr adroddiad Archwilio Mewnol ar Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn y Pwyllgor Archwilio.  Darparodd y Cynghorydd Attridge wybodaeth am y bwrdd arolygu proffesiynol a oedd wedi cael ei sefydlu i symud materion ymlaen ac roedd y Prif Weithredwr wedi awgrymu y byddai model tebyg yn cael ei fabwysiadu pe bai materion arwyddocaol yn cael eu nodi mewn unrhyw faes gwasanaeth arall.

 

O ran lefelau dyledion tenantiaid, gofynnodd y Cynghorydd Jones beth oedd yn cael ei wneud i ostwng ôl-ddyledion rhent.  Rhoddodd y Cynghorydd Attridge sicrwydd bod cynllun gweithredu mewn lle a bod cynnydd yn cael ei fonitro yn dilyn yr adroddiad Archwilio Mewnol.  Rhoddodd drosolwg cryno o’r diweddariad a roddwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter, a dywedodd bod dull dim goddefgarwch yn cael ei ddefnyddio i ddatrys y broblem hirfaith hon.

 

Mewn ymateb i ymholiad am ganran y ffyrdd sydd mewn cyflwr gwael cyffredinol, tynnodd y Prif Swyddog sylw at y ffaith nad oes unrhyw beth o’i le o reidrwydd ar ostwng y targedau gan fod nifer o ffactorau i’w hystyried.  O ran defnyddio’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, esboniodd y cynlluniau i ddileu’r targed ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau bod trefniadau  ...  view the full Cofnodion text for item 20