Mater - cyfarfodydd

Annual Directors Report

Cyfarfod: 14/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 15)

15 Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas: Ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai diben Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd nodi’r daith tuag at welliant a gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau a oedd yn hyrwyddo eu lles pobl ac yn eu helpu i gyflawni eu deilliannau personol.

 

                        Trafododd y Prif Swyddog y prif ystyriaethau, fel maent wedi’u nodi yn yr adroddiad, a thynnodd sylw at y blaenoriaethau i wella a nodwyd ar gyfer 2018/19 a oedd hefyd wedi’u hamlinellu yn Adroddiad Blynyddol drafft y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2017/18.

 

                        Bu i'r Cynghorydd Kevin Hughes longyfarch y Prif Swyddog a’i dîm am gynnwys yr adroddiad ac am eu gwaith caled. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2017/18; a 

 

 (b)      Llongyfarch y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’i dîm am y gwaith a wnaed.