Mater - cyfarfodydd

Growth Vision and Strategy for the Economy of North Wales: Governance Agreement

Cyfarfod: 19/06/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 24)

24 Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru: Cytundeb Llywodraethu pdf icon PDF 67 KB

Nodi cynnydd ar ddatblygiad Cais Bargen Twf a mabwysiadu’r Cytundeb Llywodraethu cam cyntaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar ddatblygu Cais Bargen Twf Gogledd Cymru i geisio cymeradwyaeth ar gyfer y trefniadau anweithredol o fewn Cytundeb Llywodraethu (GA1) yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet o’r trefniadau gweithredol yn gynharach yn y dydd.

 

Rhoddwyd eglurhad o’r ddau faes penderfynu yr oedd eu hangen i gymeradwyo cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethu fel y gellid diweddaru’r Cyfansoddiad yn gyfatebol. Nod Cais y Bargen Twf oedd bod o fudd i economi’r rhanbarth a byddai’r Strategaeth Twf yn galluogi ymagwedd unedig i gael mynediad i geisiadau am gyllid, fel y Gronfa Ffyniant. Fel y gofynnwyd yn y gweithdy diweddar i Aelodau, rhannwyd gwybodaeth ar fodel Llywodraethu diwygiedig y cydbwyllgor rhanbarthol statudol a gylchredwyd yn lle’r atodiad i’r adroddiad. Roedd hwn yn egluro proses benderfynu neu gyfrifoldebau ymgynghorol bob partner. Tra bo’r GA1 yn nodi sut y byddai’r pwyllgor yn gweithredu yn y cyfnod interim, byddai ail ran y Cytundeb yn cynnwys rhagor o fanylion am yr ymrwymiadau a byddai’n destun ymgynghoriad yn 2019.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai cyflawniadau o ran Cais y Fargen Twf yn cryfhau’r achos dros well cydweithio ar lefel ranbarthol, yr ystyriwyd ei fod yn ddewis tebygol yn lle diwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Dywedodd mai’r tri maes a nodwyd ar gyfer eu gwella drwy weithio ar lefel ranbarthol yng Ngogledd Cymru oedd yr economi, iechyd a gofal cymdeithasol a diogelwch cymunedol.

 

Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth ar gynnwys y GA1, gan egluro mai penderfyniad y Cyngor oedd cytuno ar drefniadau ar gyfer Trosolwg a Chraffu. Amlinellodd y pedwar mesur diogelu fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac atgoffodd bawb y byddai’r ddogfen gynnig yn cael ei chyflwyno i’w chymeradwyo gan y Cyngor ym mis Medi.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, roedd y Cynghorydd Butler yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan rai Aelodau ond amlygodd bwysigrwydd y Fargen a chadw rheolaeth leol dros faterion Llywodraethu penodol.              

 

Cododd y Cynghorydd Peers sawl pwynt o ran y modd yr oedd y ddogfen wedi’i chyflwyno y cytunodd y Prif Swyddog fynd i’r afael â hwy wrth gwblhau’r GA1 ar ôl derbyn sylwadau pob cyngor. Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurhad o sawl maes o fewn y GA1 gan gynnwys cyfraniadau gan y chwe chyngor a chytunodd i ailgylchredeg y Strategaeth Twf i’r Aelodau. O ran yr awgrym i gynnwys ‘lle’n bosibl’ mewn perthynas ag ymrwymo digon o adnoddau i gyflenwi’r Fargen Twf, amlygodd y swyddogion bwysigrwydd pob cyngor yn anrhydeddu ei ran o’r ymrwymiadau fel rhan o’r cytundeb.

 

Tra bo’r Cynghorydd Heesom yn cydnabod y cyfleoedd sylweddol drwy’r Fargen Twf, nododd unwaith eto ei bryderon ynghylch graddau’r manteision.

 

Siaradodd y Cynghorydd Richard Jones o blaid yr ymagwedd ranbarthol ond cwestiynodd y manteision ar gyfer y Sir gyfan. Cyfeiriodd at yr amcanion a nodwyd yn y GA1 a dywedodd y dylai’r eitemau sydd o fudd uniongyrchol i Sir y Fflint fod wedi cael eu dwyn i sylw’r Cyngor yn gynharach er mwyn egluro i’r Aelodau beth yr oedd gofyn iddynt ei gytuno. Holodd am  ...  view the full Cofnodion text for item 24