Mater - cyfarfodydd

Conduct and Convictions of a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver

Cyfarfod: 30/04/2018 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 5)

Ymddygiad a Chosfarnau o Gyrrwr Hurio / Cerbyd Hacnai (ar y Cyd) a Throseddau Amodau Preifat

Pwrpas:  I Aelodau ystyried ymddygiad a chollfarnau moduro Gyrrwr Cerbyd Hacni / Hurio Preifat (ar y cyd), wedi’i drwyddedu gyda’r Awdurdod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried ymddygiad ac euogfarnau Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Gofynnodd yr ymgeisydd a fyddai’n cael cywiro camddatganiad o fewn ei sylwadau ysgrifenedig wedi’i atodi i’r adroddiad.  Eglurodd bod yr euogfarn diwethaf ar ei gofnod DVLA wedi’i dderbyn yn gynharach yn y flwyddyn oedd yn golygu bod ganddo naw pwynt ar ei drwydded ar hyn o bryd a dim erlyniadau eraill yn aros am ddedfryd.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryderon am rybuddion a gyflwynwyd yn flaenorol i’r ymgeisydd, gan gynnwys methu datgelu troseddau a thorri amodau trwydded pellach.  Yn ystod yr holi, manylodd yr ymgeisydd yr amgylchiadau oedd yn ymwneud â’r euogfarnau hynny.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at gofnod euogfarn yr ymgeisydd a gofynnodd a oedd ganddo broblem gyda goryrru.  Wrth gydnabod y pwynt, eglurodd yr ymgeisydd ar bob achlysur, ei fod yn gyrru prin dros y terfyn cyflymder a’i fod wedi gwneud llawer iawn o filltiroedd yn ystod y cyfnod hwnnw.    Dywedodd bod yr euogfarnau goryrru o ganlyniad i ddiffyg canolbwyntio ac nad oedd yn cludo cwsmeriaid ar yr adegau hynny.    Mewn perthynas â’i euogfarn goryrru diwethaf ar ffordd gyda chamerâu  cyfartafledd gyrru, ni fu’n ymwybodol o unrhyw arwyddion rhybudd ac nid oedd wedi herio hyn gan ei fod yn teimlo ei fod yn gorfod cyfaddef yr euogfarn.   Ers hynny, roedd wedi gwneud nifer o newidiadau i wella ei fywyd a delio gyda materion iechyd. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y panel, dywedodd yr ymgeisydd nad oedd unrhyw esgus dros oryrru a bod newidiadau i’w fywyd gwaith wedi'i helpu i ddeall ei gyfrifoldebau a chyflawni cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.   Roedd wedi llwyddo i gwblhau cwrs Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol yn ddiweddar i ail-addysgu ei hun a gwella ei sgiliau gyrru. 

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr pam bod yr ymgeisydd wedi methu ymateb i rybuddion blaenorol.   Roedd yr ymgeisydd yn cyfaddef nad oedd wedi cymryd y troseddau mor o ddifrif ag y dylai a’i fod nawr yn gwerthfawrogi pwysigrwydd ei drwydded.    Yn dilyn trafodaeth bellach, dywedodd ei fod wedi darllen yr amodau trwyddedu safonol yn ddiweddar ac roedd yn deall yn llwyr goblygiadau mynd yn groes i’r canllawiau.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon y gofynnwyd yr holl gwestiynau perthnasol, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu i adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn dod i benderfyniad. 

 

5.1       Penderfyniad ar y Cais

 

I bennu’r cais, rhoddodd y panel ystyriaeth i sylwadau ar lafar ac ysgrifenedig yr ymgeisydd, a chanllawiau’r Cyngor ar ddelio gydag euogfarnau.  O ystyried y rhybuddion a gyflwynwyd i’r ymgeisydd o’r blaen, roedd y panel yn bryderus ei fod yn ymddangos yn diystyru rheolau trwyddedu.   Fodd bynnag, ar ôl ystyried yr esboniadau a roddwyd gan yr ymgeisydd a’r camau cadarnhaol a gymerwyd ers hynny, roedd y panel yn teimlo ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i barhau i gael Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni / Hurio Preifat (ar y cyd) yn amodol ar gyfnod prawf a chwblhau cwrs ymwybyddiaeth goryrru.

 

Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er  ...  view the full Cofnodion text for item 5