Mater - cyfarfodydd
North East Wales (NEW) Homes Business Plan 2018/27
Cyfarfod: 22/05/2018 - Cabinet (eitem 181)
181 Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWYDD) 2018/27 PDF 97 KB
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEW Homes) 2108/27.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad ar Gynllun Busnes North East Wales (NEW) Homes oedd yn gofyn cymeradwyo’r Cynllun Busnes a’r broses arfaethedig ar gyfer cymeradwyo benthyciad newydd i NEW Homes i ddatblygu neu brynu tai fforddiadwy yn Sir y Fflint.
Roedd y Cynllun Busnes yn cyflwyno elfennau allweddol o gynllun twf arfaethedig y cwmni i gynyddu nifer yr eiddo a reolir ac a berchenogir fel tai fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf.
Mae Bwrdd NEW Homes wedi adolygu datblygiad y cwmni a’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn amcanion gwreiddiol y Cynllun Busnes a arweiniodd at Gynllun Busnes diwygiedig ar gyfer NEW Homes.
Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau), fel rhan o’r broses adolygu, yr ystyriwyd tri phrif faes portffolio yn erbyn y rhagolygon a wnaed yn y Cynllun Busnes gwreiddiol. Y rhain oedd:Y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP), Unedau Adran 106 a Thai Gosod a Reolir, gyda’r manylion llawn yn yr adroddiad.
Canmolodd y Cynghorydd Roberts y gwaith a wnaed yn ei ward lle’r oedd tai wedi’u codi yn lle’r unedau meisonét anaddas, gan helpu i drawsnewid canol tref y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod prinder cartrefi fforddiadwy i’w rhentu o hyd, a chyfeiriodd at Lys Alexandra yn yr Wyddgrug fel datblygiad llwyddiannus. Dywedodd y Cynghorydd Attridge fod y cwestiwn polisi o gartrefi fforddiadwy’n cael ei ystyried.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Cynllun Busnes NEW Homes ar gyfer 2018/2027; a
(b) Rhoi awdurdod o dan bwerau dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, drwy ymgynghori ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid, i gymeradwyo benthyca darbodus pellach drwy’r Cyngor (hyd at uchafswm o £10m) i’w fenthyca ymlaen i NEW Homes er mwyn datblygu neu brynu cartrefi fforddiadwy. Hyn ar yr amod bod NEW Homes yn cwrdd â’r paramedrau benthyca cytunedig yn Atodiad 2 yr adroddiad.