Mater - cyfarfodydd

Budget Consultation Process

Cyfarfod: 26/04/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 24)

24 Proses Ymgynghori ar y Gyllideb pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Galluogi’r Pwyllgor i ystyried yr adolygiad o Broses y Gyllideb a gwneud argymhellion I’r Cyngor.     

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a oedd yn darparu adborth gan Aelodau a Swyddogion i ddatblygu dull newydd ar gyfer y broses ymgynghori ar y gyllideb. Atodwyd yr adborth a gafwyd gan yr Aelodau yn ystod yr ymgynghoriad i’r adroddiad, yn ogystal â siart llif proses cyllideb fesul cam.Argymhellwyd geiriau diwygiedig, i’w cynnwys yn adran 16 y Cyfansoddiad, yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn yr ymgynghoriad gydag Aelodau, amlinellwyd cyfres o ofynion ac ymatebion/ sylwadau yn yr adroddiad a ddefnyddiwyd i hysbysu’r siart llif arfaethedig. Roedd y siart llif hefyd yn seiliedig ar ddull 2018/19 ond nid oedd yn gyfarwyddol; roedd y siart llif yn dangos proses tri cham ond yn ddibynnol ar yr amgylchiadau, gellid hefyd mabwysiadu proses dau neu bedwar cam.

 

Y geiriad arfaethedig ar gyfer y Cyfansoddiad oedd:

 

Yn seiliedig ar arferion da a'r angen am effeithlonrwydd, roedd y Cyngor wedi datblygu Proses Gyllideb fesul cam, fel y dangoswyd yn y siart llif. Nid yw hyn yn gyfarwyddol; byddai rhwng dau neu bedwar cam yr un mor rhesymol, yn dibynnu ar yr amgylchiadau yn ystod blynyddoedd gwahanol. Ym mhob cam, mae pedair wythnos ar gael i ymgynghori, ar sail aelod unigol a thrwy un o chwech Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Mae amser ar gael i Aelodau unigol a Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu ofyn am wybodaeth ychwanegol, hyd at ac yn cynnwys dyddiad cau terfynol a fydd yn cael ei osod ar ddechrau’r broses.

 

Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, bydd y Cabinet yn llunio cynigion cadarn, o ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad. Bydd unrhyw adroddiad i’r Cyngor yn adlewyrchu sylwadau a wnaed gan ymgyngoreion ac ymateb y Cabinet. Bydd Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu efallai hefyd yn paratoi ymateb yn uniongyrchol i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad anweithredol, megis y Gyllideb. Drwy gydol y broses, hyd at y dyddiad cau, a fydd yn cael ei benderfynu ar sail flynyddol, bydd swyddogion statudol y Cyngor ar gael i arwain a chynorthwyo Aelodau sy’n dymuno archwilio cynigion eraill.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod llawer o waith wedi’i wneud ar opsiynau posib i hysbysu'r siart llif. Dywedodd fod proses y gyllideb ar gyfer 2019/20 eisoes wedi dechrau gydag adroddiad i’r Cabinet yn gynharach yr wythnos honno yn trafod y bwlch yn y gyllideb a ragwelwyd. Yn dilyn proses y gyllideb y flwyddyn flaenorol, trefnwyd cyfarfod cynnar gyda Phenaethiaid Ysgolion a Chadeiryddion Cyrff Llywodraethu i’w gynnal yr wythnos ganlynol i ystyried senarios cyllideb. Yn dilyn Gweithdy Cynhyrchu Incwm lle roedd Aelodau yn heriol, roedd gwaith bellach yn cael ei wneud ar opsiynau. Cyfeiriodd at eitemau megis Archwilio Effeithlonrwydd y Gyllideb a’r Strategaeth Incwm a oedd eisoes wedi’u hychwanegu at y rhaglen gwaith i’r dyfodol er mwyn i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol allu archwilio’r canlyniadau.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Dunbar sylw ar yr arbedion effeithlonrwydd a wnaed dros y blynyddoedd diweddar, ond pwysleisiodd fod y Cyngor bellach yn ddibynnol ar gymorth gan y Llywodraeth Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Cefnogodd yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe groesawodd y siart llif. Dywedodd fod  ...  view the full Cofnodion text for item 24