Mater - cyfarfodydd
Member Development Update
Cyfarfod: 26/04/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 26)
26 Diweddariad Datblygiad Aelodau PDF 77 KB
Pwrpas: I ddiweddaru’r Pwyllgor ar weithdai a sesiynau briffio Aelodau diweddar a rhai sydd i ddod.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad Diweddariad Datblygu Aelodau ac eglurodd, yn dilyn yr etholiadau lleol y flwyddyn flaenorol, y dyluniwyd Rhaglen Gynefino i ddarparu Aelodau newydd a’r rhai oedd yn dychwelyd â gwybodaeth hanfodol i weithredu’n effeithiol fel Cynghorydd.
Byddai adroddiadau diweddaru rheolaidd ar gynnydd digwyddiadau datblygu Aelodau yn cael eu hadrodd i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd. Yn ychwanegol, os oedd gan yr Aelodau awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau datblygu Aelodau yn y dyfodol byddai modd iddynt gysylltu gyda’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.
Digwyddiadau a gynhaliwyd ers y cyfarfod diwethaf:
· Gweithdy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – 8 Chwefror 2018
· Iechyd a Diogelwch ar gyfer Cynghorwyr – 15 Mawrth 2018
· Hyfforddiant Arolygiaeth Gynllunio – 9 Ebrill 2018
· Gweithdy Adolygiad o gymorthdaliadau’r Cyngor ar gyfer Cludiant Cyhoeddus – 11 Ebrill 2018.
· Gweithdy Egwyddorion Rhannu Gwybodaeth – 16 Ebrill 2018
· Gweithdy Cynhyrchu Incwm – 18 Ebrill 2018
Y gweithdai i ddod oedd:
· Cynllun y Cyngor – 29 Mai 2018
· Briffiad Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol - Mehefin 2018
· Gweithdy Monitro Perfformiad – Gorffennaf 2018
Yn dilyn cyflwyniad hyfforddiant Ymwybyddiaeth Trais Domestig i staff, cynigiwyd hefyd y dylid cynnig yr hyfforddiant i Aelodau. Yn yr un modd gyda’r ymgyrch “Look at Me” a oedd yn sesiwn hyfforddi ymwybyddiaeth anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.
Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Smith, dywedodd y Prif Weithredwr pe na bai’n gallu mynychu sesiwn hyfforddi a oedd o ddiddordeb iddo, byddai swyddogion yn gallu darparu sesiwn un i un gryno ar ei gyfer. Cadarnhaodd fod y sesiynau Iaith Gymraeg i staff hefyd yn agored i Aelodau.
Awgrymodd y Cynghorydd Christine Jones hyfforddiant Rhianta Corfforaethol ac fe groesawyd hyn gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd o ran y digwyddiadau datblygu Aelodau yn cael ei nodi; a
(b) Bod awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau datblygu Aelodau yn y dyfodol yn cael eu trafod gyda’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.