Mater - cyfarfodydd
Visits to Town and Community Councils
Cyfarfod: 09/04/2018 - Pwyllgor Safonau (eitem 71)
71 Ymweld â Chynghorau Tref a Chymuned PDF 90 KB
Pwrpas: Hysbysu Aelodau o drefniadau ymarferol ac ariannol ymweld â Chynghorau Tref a Chymuned.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Mileage expenses claim, eitem 71 PDF 68 KB
- Enc. 2 - Attendance expenses claim, eitem 71 PDF 58 KB
- Enc. 3 - Toolkit, eitem 71 PDF 51 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar y trefniadau ymarferol ac ariannol i ymweld â Chynghorau Tref a Chymuned, ar ôl trafod yn y cyfarfod blaenorol.
Er nad oedd yr ymweliadau arfaethedig yn bodloni meini prawf rheolau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â thaliadau i aelodau annibynnol, roedd y Cyngor yn gallu talu costau teithio. Roedd ffurflen hawlio costau wedi’i hatodi i’r adroddiad, ynghyd â'r pecyn gwaith awgrymedig i sicrhau cysondeb wrth gynnal yr ymweliadau a darparu adborth i’r Pwyllgor.
Roedd ffurflen hawlio lwfans presenoldeb hefyd wedi’i darparu a dywedwyd wrth aelodau annibynnol am ei defnyddio pan oeddent yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor a digwyddiadau perthnasol. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar newid i’r amseroedd paratoi y cytunwyd arnynt ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylai Aelodau sy’n ymweld â Chynghorau Tref a Chymuned er mwyn arsylwi allu hawlio costau teithio am wneud hynny; a
(b) Y dylai Aelodau nodi’r ‘pecyn gwaith’ awgrymedig i gynnal ymweliadau.