Mater - cyfarfodydd

Regional Regeneration Strategy and Welsh Government Targeted Regeneration Investment programme

Cyfarfod: 16/05/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 6)

6 Strategaeth Adfywio Rhanbarthol a Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Ystyried y Rhaglen Strategaeth Adfywio Rhanbarthol a Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio Llywodraeth Cymruig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) y Strategaeth Adfywio Rhanbarthol a Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio Llywodraeth Cymru. Roedd LlC wedi lansio’r Rhaglen hon i ddarparu cyllid ar gyfer prosiectau adfywio ledled Cymru. Roedd y cyllid yn amodol ar gyflwyno strategaeth adfywio rhanbarthol ac ar ddull oedd yn blaenoriaethu’r rhanbarth wrth ddatblygu cynigion buddsoddiad.

 

            Adroddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod y strategaeth adfywio ddrafft wedi cael ei datblygu o fewn y terfynau amser heriol a roddwyd i’r broses a bod dull cydweithredol wedi’i gymryd ar draws Gogledd Cymru i ddatblygu a blaenoriaethu buddsoddiad ac i ganolbwyntio’r adnoddau prin ar feysydd adfywio blaenoriaeth a phrosiectau thematig a fydd yn gwneud defnydd o dair blynedd gyntaf y rhaglen hon. Roedd strategaeth adfywio ddrafft Gogledd Cymru yn cynnig deuddeg tref fel meysydd blaenoriaeth i gael eu hadfywio i LlC fel y dangosir yn yr adroddiad. Dewiswyd y trefi drwy ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i ystyried lefelau amddifadedd cyffredinol.

 

            Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd y byddai’n rhaid i’r cyllid a neilltuwyd i drefi Treffynnon a Shotton, sef y meysydd blaenoriaeth yn Sir y Fflint, gael arian cyfatebol gan y Cyngor.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin y byddai angen ystyried yn ofalus sut byddai’r Cyngor yn bodloni’r gofynion o safbwynt arian cyfatebol. Roedd ganddi bryderon am siopau yn Nhreffynnon a oedd wedi derbyn cyllid adfywio yn y gorffennol ond wedi gadael iddynt ddirywio a gofynnodd a oedd modd cael yr arian hwn yn ôl. Mynegodd y Cynghorydd Ted Palmer ei siom fod Treffynnon wedi cael ei hadnabod fel maes blaenoriaeth oherwydd y lefelau amddifadedd ond soniodd am waith Cyngor Tref Treffynnon a’i gynlluniau ar gyfer gwella. Roedd yn croesawu’r ffaith fod y Cyngor yn parhau i ymgynghori a gweithio ar y cyd â Chyngor y Dref. Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod cyfnod o 5 mlynedd lle y gallai’r Cyngor adennill yr arian os oedd newid defnydd mewn eiddo ynghanol tref.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hardcastle ynghylch eiddo mawr yng Nghei Conna a oedd wedi bod yn wag ers blynyddoedd maith, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai fod perchennog yr eiddo wrthi’n ei werthu drwy broses arwerthiant. Cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod y Cyngor wedi bod mewn trafodaethau â pherchennog yr eiddo a bod cynlluniau datblygu yn eu lle.

 

            Teimlai’r Cynghorydd Ron Davies ei bod yn annheg fod Shotton wedi cael ei hadnabod fel ardal amddifad, oherwydd mai dim ond am ran fach o Shotton roedd hyn yn wir. Soniodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai am yr angen am waith ar y cyd rhwng amlasiantaethau a Rheolwyr Tai i daclo ardaloedd o amddifadedd o hyn ymlaen.

 

            Canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton waith Cymunedau’n Gyntaf yn targedu llwybrau ar gyfer cyfleoedd gwaith.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Strategaeth Adfywio Rhanbarthol drafft i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.