Mater - cyfarfodydd

Audit Committee Self-Assessment

Cyfarfod: 21/11/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 37)

37 Hunanasesiad y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 106 KB

Rhoi gwybod i’r Aelodau am ganlyniadau hunanasesiad y Pwyllgor Archwilio, a fydd yn cyfrannu at Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2017/18. Bydd hefyd yn ffurfio'r sail ar gyfer darparu unrhyw hyfforddiant pellach sydd ei angen ar y pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiadau ar ganlyniadau’r hunanasesiad yr ymgymerwyd ag ef gan y Pwyllgor ym Medi 2018 yn ystod gweithdy hwyluso. Roedd canlyniadau cyffredinol yr hunanasesiad yn gadarnhaol a byddent yn cyfrannu at baratoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2018/19. Adroddwyd y gwnaed cynnydd da ar y cynllun gweithredu.

 

Mynegodd y Cynghorydd Johnson ei werthfawrogiad i swyddogion am y gweithdy cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r canlyniadau a’r cynnydd ar y camau gweithredu.