Mater - cyfarfodydd
Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence
Cyfarfod: 15/02/2018 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 3)
Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)
Pwrpas:Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (3/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (3/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (3/4)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (3/5)
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod.
Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu sawl euogfarn flaenorol a nodwyd ar hen ddogfen datgeliad. Pan dderbyniwyd Datgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yr ymgeisydd, dangoswyd yr holl euogfarnau a throseddau. Atodwyd eglurhad ysgrifenedig o’r holl euogfarnau i’r adroddiad. Yn sgil natur yr euogfarnau, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i euogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cyfeiriodd yr ymgeisydd at yr eglurhad ysgrifenedig a atodwyd i’r adroddiad i ymdrin â’i euogfarnau, a rhoddodd ragor o wybodaeth gefndirol ac eglurhad ar gyfer pob un o'r troseddau a gyflawnodd yn ystod ei ieuenctid. Ymatebodd i'r cwestiynau a godwyd o ran ei amgylchiadau personol a theuluol a darparodd fanylion am ei gefndir cyflogaeth a’i rôl bresennol yn gweithio ar gyfer sefydliad elusennol.
Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl am ei euogfarnau. Nododd yr ymgeisydd ei fod yn llwyr ddifaru ei holl droseddau ac eglurodd eu bod oll wedi digwydd yn ystod cyfnod o broblemau personol gyda chamddefnyddio sylweddau. Ailadroddodd yr amgylchiadau a arweiniodd atynt a phwysleisiodd nad oedd wedi cyflawni unrhyw droseddau ers sawl blwyddyn. Eglurodd yr ymgeisydd ei fod wedi newid ac wedi defnyddio profiad ei orffennol i gynorthwyo pobl sydd mewn amgylchiadau anodd tebyg i newid eu bywydau er gwell.
Pan ofynnwyd iddo, ymatebodd yr ymgeisydd ei fod yn ystyried eu hun yn unigolyn cymwys a phriodol i dderbyn trwydded ac fe gyfeiriodd at ei fywyd teuluol sefydlog, cofnod cyflogaeth da a dyheadau gyrfaol ar gyfer y dyfodol.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn penderfynu ar y cais.
3.1 Penderfyniad ar y Cais
Wrth wneud penderfyniad am y cais, rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i ganllawiau’r Cyngor ar ymdrin ag euogfarnau a atodwyd i’r adroddiad. Rhoddodd y Panel ystyriaeth i amgylchiadau pob achos a'r amser a oedd wedi mynd heibio ers ei euogfarn diweddaraf a theimlwyd fod yr ymgeisydd wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd. Cytunodd y Panel bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.
3.2 Penderfyniad
Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd fod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu ei fod wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd a'i euogfarnau blaenorol a’u bod wedi cytuno i gymeradwyo’r cais.
PENDERFYNWYD:
Bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y ... view the full Cofnodion text for item 3