Mater - cyfarfodydd
Council Fund Budget 2018/19 – Third and Closing Stage
Cyfarfod: 20/02/2018 - Cabinet (eitem 128)
128 Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 – Cam Tri a Cham Olaf PDF 197 KB
Pwrpas: Adolygu’r dewisiadau ar gyfer trydydd cam y broses o bennu’r gyllideb, ac yna gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu i’r Prif Weithredwr gyflwyno adroddiad ar Gyllid Refeniw Cronfa’r Cyngor 2018/19 - Y Trydydd Cam a'r Cam Terfynol, ac eglurodd bod angen i’r Cyngor bennu cyllid gytbwys er mwyn bodloni ei ddyletswydd cyfreithiol.
Cyfrifoldeb cyfun y Cyngor cyfan yw pennu’r gyllideb yn seiliedig ar gyngor y Cabinet ac amlinellwyd yr opsiynau sydd ar ôl er mwyn cyflawni cyllideb gyfreithiol gytbwys yn yr adroddiad. Eglurodd bod yr opsiynau ar gyfer torri mwy ar wasanaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon wedi eu disbyddu, a bod datganiadau cydnerthedd portffolio, oedd yn dangos y risg i gapasiti gwasanaethau a pherfformiad o ganlyniad i unrhyw dorri pellach ar gyllidebau, wedi cael eu derbyn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet.
Ar wahân i ymyrraeth ariannol gan Lywodraeth Cymru (LlC), yr unig opsiynau eraill er mwyn mantoli’r gyllideb oedd incwm o’r Dreth Gyngor a defnyddio arian wrth gefn a balansau.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod effeithiau ariannol Camau Un a Dau wedi eu hesbonio yn Nhabl 3 yn yr adroddiad, ac ar ôl ystyried y ddau, y bwlch oedd ar ôl yn y gyllideb oedd £5.771m.
Mewn perthynas ag arian wrth gefn a balansau, o’i gymharu â nifer o gynghorau eraill, dywedodd mai dim ond cronfeydd bychan a chyfyngedig oedd gan Sir y Fflint i’w defnyddio. Hefyd, gellid ond defnyddio cronfeydd wrth gefn unwaith, ac nid yw gorddibynnu ar eu defnyddio er mwyn mantoli cyllidebau blynyddol yn ffordd gynaliadwy o ariannu gwasanaethau.
Roedd gan y Cyngor gronfeydd wrth gefn cyfyngedig oedd heb eu clustnodi y gellid eu defnyddio, ac roedd adroddiad monitro cyllideb Mis 9 yn rhagamcanu Cronfa Wrth Gefn o £4.174m ar ddiwedd Mawrth 2018. Fodd bynnag, roedd hynny yn ddarostyngedig i newid rhwng nawr a diwedd y flwyddyn ariannol.
Roedd y Cyngor hefyd yn dal cronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi a neilltuwyd at ddibenion penodol. Bu i adroddiad monitro cyllideb Mis 9 ddarparu diweddariad ar lefelau rhagdybiedig presennol o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, a dangosodd bod y swm yn debygol o ostwng o £20 i £10m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Cwblhawyd adolygiad o’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd sydd ar ôl, a dim ond y rhai sydd ag achos busnes cryf fyddai’n cal eu cadw a’r gweddill yn cael eu rhyddhau i’w defnyddio fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS). Y cyfanswm a argymhellwyd i’w ryddhau er mwyn cynorthwyo gyda phennu cyllideb ar gyfer 2018/19 oedd £1.927m. Cyngor y Rheolwr Cyllid Corfforaethol oedd y gellid pennu cyllideb gytbwys drwy ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a phennu’r Dreth Gyngor ar 5%. Amlinellwyd darlun o gyfraniad i’r gyllideb o amryw o opsiynau mewn perthynas â’r Dreth Gyngor yn nhabl 4 yr adroddiad. Atodwyd cymhariaeth o lefelau’r Dreth Gyngor ar draws Cymru i’r adroddiad.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y nifer o flynyddoedd o leihau grantiau llywodraeth leol oedd wedi effeithio ar wasanaethau, yn cynnwys Gofal Cymdeithasol ac Addysg. Yr her nawr oedd pa opsiynau y gellid eu defnyddio fel y gallai’r Aelodau fantoli’r gyllideb. Croesawodd y cymorth ... view the full Cofnodion text for item 128