Mater - cyfarfodydd
Air Quality in Flintshire
Cyfarfod: 17/04/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 70)
70 Ansawdd Aer yn Sir y Fflint PDF 96 KB
Pwrpas: Darparu trosolwg o asesiad Ansawdd Aer Gogledd Cymru, a chynghori Aelodau am y systemau a’r prosesau lleol sydd gan Gyngor Sir y Fflint ar waith er mwyn monitro ansawdd aer.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - North Wales Combined Authority Report on Air Quality, eitem 70 PDF 3 MB
- Enc. 2 - Flintshire Public Services Board - Draft Wellbeing Assessment, eitem 70 PDF 265 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Bithell adroddiad ar ganfyddiadau’r adroddiad Ansawdd Aer rhanbarthol, a baratowyd ym mis Awst 2017, er mwyn ystyried sut y gallai’r Cyngor wneud mwy i hyrwyddo ystyriaethau ansawdd aer wrth wneud penderfyniadau strategol allweddol a gweithredol. Wrth amlygu pwysigrwydd y testun, roedd yn falch o nodi y cofnodwyd ansawdd aer da yng ngogledd Cymru ond bod angen gwella eto.
Trafododd y Rheolwr Diogelu’r Gymuned a Busnes am effaith ansawdd aer ar iechyd a dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi canmol y dull o gomisiynu’r adroddiad ar y cyd. Dywedodd fod y testun nawr yn flaenoriaeth i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chyflwynodd y Swyddog Rheoli Llygredd a aeth ati i ddangos y tiwbiau monitro a ddefnyddia i roi syniad o lefelau ansawdd yr aer.
Yn ymateb i gwestiynau, eglurodd leoliadau monitro a’r dull o fonitro’n fwy dwys. Dywedodd y byddai modd anfon e-bost yn cynnwys dolen at Fforwm Ansawdd Aer Cymru at aelodau’r Pwyllgor. Byddai cyflwyno projectau i ysgolion gael monitro dros eu hunain hefyd yn helpu codi ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith disgyblion.
Eglurodd y Rheolwr fod yr adroddiad blynyddol yn ofyn statudol a bod yn rhaid ystyried y canfyddiadau ar gyfer unrhyw waith datblygu a gynllunnir.
Yn dilyn sylwadau ar effaith rheoli traffig, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod oedi yn aml yn ganlyniad i waith gan gwmnïau gwasanaethau ac y dylid cyfeirio unrhyw bryderon i’r Goruchwylydd Ardal perthnasol. Cyfeiriodd at Strategaeth Fws Sir y Fflint, a oedd yn hyrwyddo defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gyda rhai gweithredwyr yn defnyddio bysiau allyrron isel.
PENDERFYNWYD:
(a) Y byddai’r Cyngor yn hybu’r holl benderfyniadau a pholisïau, pan fo’n addas, er mwyn ystyried yr effaith ar ansawdd yr aer;
(b) Y dylai’r Cyngor weithio â’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhan o’i thema amgylcheddol, i hyrwyddo dull aml-asiantaeth i fynd i’r afael ag ansawdd yr aer; a
(c) Nodi cynnwys Adroddiad Ansawdd Aer Awdurdodau Gogledd Cymru Ar y Cyd.