Mater - cyfarfodydd
A place to call home
Cyfarfod: 20/03/2018 - Cabinet (eitem 152)
152 Lle i’w alw’n gartref PDF 100 KB
Pwrpas: Gofynnir i’r Cabinet gytuno ar ymateb i waith Comisiynydd Pobl H?n Cymru o ran perfformiad Sir y Fflint yn yr adolygiad o gartrefi gofal.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for A place to call home, eitem 152 PDF 798 KB
- Enc. 2 for A place to call home, eitem 152 PDF 331 KB
- Enc. 3 for A place to call home, eitem 152 PDF 1013 KB
- Enc. 4 for A place to call home, eitem 152 PDF 151 KB
- Enc. 5 for A place to call home, eitem 152 PDF 92 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad Lle i’w Alw’n Gartref a ddilynodd Adolygiad Cartrefi Gofal y Comisiynydd Pobl H?n ym mis Tachwedd 2014.
Edrychodd yr adolygiad i ansawdd bywyd a gofal pobl h?n sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru ac er y cadarnhaodd yr adolygiad bod gofal preswyl yn ddewis cadarnhaol i lawer o bobl, ac yn un a wellodd eu hansawdd bywyd, roedd hefyd gwelliannau y gellid eu gwneud i wella ‘profiad byw’ nifer fawr o drigolion.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys 43 pwynt gweithredu yr oedd yr awdurdodau lleol yn gyfrifol am rai ohonynt. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae Sir y Fflint wedi bod yn datblygu strategaethau i wella profiad ac ansawdd bywyd i bobl sy’n byw yng nghartrefi gofal Sir y Fflint ac adolygwyd y gwaith gan y Comisiynydd yn 2017. Canfu’r Comisiynydd fod Sir y Fflint yn “Ddigonol” ym 15 maes yr adolygiad; dyma oedd y categori uchaf y gellid ei ddyfarnu felly roedd yn werthusiad cadarnhaol i’r Cyngor.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton safbwyntiau’r Comisiynydd a’r gydnabyddiaeth o arfer da. Rhoddodd hyder i’r Cyngor yn ei uchelgeisiau a oedd yn cynnwys cynyddu’r ddarpariaeth gwelyau ym Marleyfield ym Mwcle.
Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad hefyd a rhoddodd glod i’r staff am y cyflawniad. Mewn ymateb i gwestiwn, esboniodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu fod y cartrefi oedd yn weddill i gyflawni ‘Creating a Place Called Home, Delivering What Matters’ yn fusnesau annibynnol ac fe’u hanogwyd i gymryd rhan.
Dymunodd y Cynghorydd Jones yn dda i’r Comisiynydd gan fod ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben ym mis Ebrill.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi cynnwys adroddiad ‘Lle i’w Alw’n Gartref – Asesiad o Effaith’ Sir y Fflint;
(b) Nodi bod manylion camau a mentrau parhaus sy’n mynd rhagddynt yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i wella ansawdd bywyd y trigolion yng nghartrefi gofal Sir y Fflint; a
(c) Chymeradwyo’r llythyr ymateb i’r Comisiynydd Pobl H?n.