Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 8)

Cyfarfod: 23/01/2018 - Cabinet (eitem 125)

125 MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (MIS 8) pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 8), a oedd yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, ac yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

            Dyma ragamcan o'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn, heb unrhyw fesur lliniaru i ostwng pwysau costau a gwella'r arenillion ar gynllunio arbedion:

 

Cronfa’r Cyngor:

 

  • Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.846m yn uwch na’r gyllideb; a
  • Rhagamcanir y bydd balans y gronfa hapddigwyddiad ar 31 Mawrth 2018 yn £4.236m.

 

Cyfrif Refeniw Tai:

 

  • Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.035m yn uwch na’r gyllideb; a
  • Rhagamcanir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2018 yn £1.081m.

 

Yr amrywiannau mwyaf sylweddol a ragamcanwyd oedd y tanwariant ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor a’r amrywiant cadarnhaol ar y gronfa gasglu Treth y Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r rhagamcanion diweddaraf yn ystod y flwyddyn fesul portffolio; olrhain risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn; chwyddiant; a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y gwnaed sylwadau yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar ar y gorwariant yn ystod y flwyddyn ar Leoliadau y Tu Hwnt i’r Sir, ond roedd yr Aelodau’n fodlon ag ymateb y swyddogion y bydd y maes hwnnw’n cael ei adolygu. 

 

PENDERFYNWYD:

           

            (a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r

                        Cyngor ar 31 Mawrth 2018; a

 

(b)       Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd yn y Cyfrif Refeniw Tai.